About this role
Job Requisition Number 9459 Work Type Parhaol Job Function Hamdden a Chroeso Salary Range £25,949.00 perm (annualised hours) Base Closing Date Llanishen Lisvane & Llanishen Reservoirs (Cardiff) 23:59 on 7th November 2026 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Byddwch yn ymuno â thîm gwych o gydweithwyr yn y Ganolfan Ymwelwyr. Fel Parcmon Profiad Ymwelwyr, byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynnal y safonau uchel o gyflwyniad safle a phrofiad ymwelwyr. Mae eich cyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau glendid, diogelwch, ac ymddangosiad cyffredinol y safle, gan greu amgylchedd sy’n adlewyrchu ansawdd a gwerthoedd Dŵr Cymru.
Byddwch yn gweithredu fel presenoldeb amlwg ar draws y safle, gan fonitro gweithgarwch ymwelwyr i gynnal diogelwch a rheolau’r safle, ac yn mynd i’r afael â phroblemau yn brydlon ac yn broffesiynol. Trwy ymgysylltu rhagweithiol, byddwch yn darparu gwasanaeth gwresog, gwybodus a chynorthwyol i ymwelwyr, bob amser yn hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Dŵr Cymru.
- Mae agweddau allweddol ar y swydd yn cynnwys: Cyflwyniad a Glendid y Safle : Cynnal a chadw’r tir, cyfleusterau, ac amwynderau i safonau rhagorol, gan sicrhau amgylchedd croesawgar a diogel.
- Plismona a Diogelwch : Monitro ymddygiad ymwelwyr, gorfodi rheoliadau’r safle, ac ymateb yn effeithiol i ddigwyddiadau i ddiogelu pobl ac eiddo.
- Rhyngweithio â Gwesteion : Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol trwy gynorthwyo ymwelwyr, ateb ymholiadau, a rhannu gwybodaeth am y safle a’i gyffiniau.
- Cydweithrediad Tîm : Gweithio’n agos gyda chydweithwyr i sicrhau gweithrediadau didrafferth a chyfrannu at fentrau gwelliant parhaus.
- I lwyddo, bydd angen sgiliau cyfathrebu cryf, dull rhagweithiol a’r gallu i gadw’n ddigynnwrf ac yn broffesiynol ym mhob sefyllfa arnoch.
- Amdanoch chi Rydych yn angerddol am ddarparu profiadau ymwelwyr rhagorol ac yn ymfalchïo mewn cynnal safonau uchel ar draws ein safleoedd.
- Rydych yn mwynhau gweithio yn yr awyr agored ac fel rhan o dîm, â dull rhagweithiol o ddatrys problemau a ffordd gyfeillgar a phroffesiynol wrth ymgysylltu â’r cyhoedd.
- Rydych yn hyblyg, yn barod i gynorthwyo gwahanol adrannau, ac yn gyfforddus yn ymdrin â dyletswyddau yn ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid a thasgau ymarferol fel cynnal a chadw’r tir a chyfleusterau.
- Sgiliau a Phrofiad Hanfodol Bydd gennych: Sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i ymgysylltu ag ymwelwyr yn gadarnhaol.
- Agwedd ymarferol at gynnal a chadw cyfleusterau mewnol ac allanol, gan gynnwys toiledau a chawodydd.
- Ymwybyddiaeth o arferion iechyd a diogelwch a hyder wrth orfodi rheolau’r safle.
- Gallu i weithio’n hyblyg, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
- Parodrwydd i gynorthwyo ar draws adrannau fel caffi/arlwyo, gweithgareddau, a safle gwersylla.
- Profiad o gynnal a chadw tir, glanhau, neu atgyweiriadau sylfaenol (dymunol).
Bydd archwiliad uwch gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn ofynnol cyn y dyddiad cychwyn. Werth ei wybod Contract parhaol, 37 awr yr wythnos (yn cynnwys penwythnosau) Bydd yr amser dechrau cynharaf am 08:00am a’r amser gorffen hwyraf am 20:30pm (shifftiau 8 awr yn nodweddiadol, yn amodol ar anghenion gweithredu) 8am-4pm NEU 12.30pm-8.30pm Rota 6 wythnos ymlaen llaw Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag: [email protected] Buddion Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys:
- Gostyngiadau staff yn ein hatyniadau ymwelwyr
- Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei roi a gwisg yn cael ei ddarparu
- Man gweithio hyfryd Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.
Sylwer y gallem gau’r swydd hon yn gynharach os oes angen. Gallem hefyd ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn ddibynnol ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cadarnhad meddygol ar ôl cynnig, ac archwiliad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol arnom ar gyfer pob cyflogai newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai swyddi, efallai y bydd angen archwiliadau ychwanegol a chadarnhad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl archwiliadau. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r archwiliadau hyn mewn e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn.
Pwy ydyn ni Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un a hoffai ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle yn brolio adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau ar y tir a’r dŵr, man dysgu addysgol, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a chaffi Grab & Go. …Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd.
Hoffech chi weld mwy? Cymerwch olwg yma: https://lisvane-llanishen.com/ Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT © Dŵr Cymru Cyf 2019.