Now hiring

Derbynnydd Atyniad Ymwelwyr (Hwlffordd, Cymru, GB, SA63 4RR) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

  • Rhif Cais y Swydd 9365 Math o Waith Achlysurol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £13.00 -£14.00 Lleoliad Llys y Fran Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Rheoli’r dyletswyddau a’r gweithgareddau blaen y tŷ sy’n gysylltiedig â derbynfa’r ganolfan Atyniad Ymwelwyr mewn ffordd effeithlon, gadarnhaol a phroffesiynol gan sicrhau bod delwedd ac uniondeb Dŵr Cymru yn cael eu cynnal ar lefel uchel.
  • Bydd hyn yn cynnwys: Tasgau a chyfrifoldebau allweddol Gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob corff allanol, ymwelydd ac aelod o’r cyhoedd sy’n ymweld â’r ganolfan atyniad ymwelwyr.
  • Cyfrannu’n effeithiol at amcanion a nodau’r tîm atyniadau ymwelwyr.
  • Bydd yn ofynnol i chi reoli’r broses llogi ystafelloedd cyfarfod, arlwyo a gofynion chwaraeon dŵr.
  • Cyfrannu at ofynion iechyd a diogelwch ar y safle, gan sicrhau amgylchedd gweithio diogel ac addas i’r diben ar gyfer staff ac ymwelwyr.
  • Cynorthwyo tîm rheoli’r Atyniad Ymwelwyr gyda sicrhau bod Dŵr Cymru yn gweithredu ac yn cynnal amgylchedd gweithio diogel, gan fodloni’r safonau gofynnol o Iechyd a Diogelwch a Chydymffurfiad Statudol.
  • Cynorthwyo gyda Chofrestrau Tân, gwagio’r adeilad, cymorth cyntaf a diogelwch staff ac ymwelwyr.
  • Cyfarfod a chyfarch Ymwelwyr, gan sicrhau eu bod yn mewngofnodi yn y llyfr ymwelwyr ac yn cael eu cyfarfod gan y cyswllt ar y safle.
  • Ymdrin â’r holl ymholiadau ffôn a chysylltu’n allanol ac yn fewnol, trosglwyddo galwadau, cymryd negeseuon, ateb ymholiadau, ar gyfer pob agwedd ar weithgareddau’r safle.
  • Cynorthwyo’r adran Cymorth Busnes gyda thasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd.
  • Cynorthwyo gyda phob elfen o bost yn fewnol ac yn allanol, danfoniadau wedi’u cofnodi, parseli a phecynnau, cludwyr a danfoniadau arbennig ar y safle.
  • Monitro, creu ac aildrefni’r system cadw lle ar gyfer chwaraeon dŵr trwy feddalwedd EOLA.
  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes.
  • Amdanoch chi Cymwysterau Hanfodol Cymwysterau clerigol/gweinyddiaeth neu gysylltiedig â chysylltiadau cyhoeddus, neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad Hanfodol Profiad o ymdrin â’r cyhoedd, gan gynnwys gweithio mewn swydd blaen y tŷ, derbynfa neu’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid.
  • Profiad o wneud a derbyn galwadau ffôn ac ymholiadau, ac ymdrin â chwsmeriaid a’r cyhoedd dros y ffôn.
  • Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd.
  • Ymwybyddiaeth fasnachol.
  • Gwybodaeth am brosesau Iechyd a Diogelwch neu brofiad ohonynt.
  • Gwybodaeth gymwys am gyfrifiaduron, â phrofiad o Excel, Word, Outlook a PowerPoint.
  • Gallu i wneud penderfyniadau cadarnhaol a rheoli sefyllfaoedd.
  • Gallu i gyflawni tasgau yn annibynnol o fewn amserlenni penodedig, yn ogystal â gweithio’n effeithiol yn rhan o dîm.
  • Gallu i gyfathrebu’n effeithiol mewn Saesneg llafar ac ysgrifenedig.

Werth ei wybod Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach am y swydd hon, cysylltwch â [email protected] Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan!

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Mae Dŵr Cymru Welsh Water yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel a dibynadwy, ac yn cymryd dŵr gwastraff i ffwrdd i’w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i’n afonydd a’n moroedd hyfryd.

Llys-y-frân yw ein cronfa ddŵr fwyaf yn Sir Benfro, wedi’i lleoli yng ngodreon Mynyddoedd Preseli. Gwnaed gwaith ailwampio gwerth £4 miliwn ar y safle, gan ailagor y Ganolfan Ymwelwyr â chaffi newydd, man manwerthu a Chanolfan Weithgareddau wych sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir a’r dŵr. Dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o’r mannau harddaf yn Sir Benfro. Hoffech chi weld mwy? Cliciwch Yma i gymryd golwg ar ein gwefan www.llys-y-fran.co.uk/ Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores