Now hiring

Technegydd Data Ynni a Chyllid (Casnewydd, Cymru, GB, NP10 8FZ) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9299 Math o Waith Dros Dro 13 mis Swyddogaeth y Swydd Cyllid Cwmpas Cyflog £31,395.00 -£35,682.00 Lleoliad Ty Awen Dyddiad cau ceisiadau Dydd Mercher 28 Hydref 2026 - 23:59 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Adrodd ar ddefnydd ynni a gwybodaeth safle berthnasol yn ôl yr angen i ddeall ac asesu effeithlonrwydd ynni’r busnes. Bydd hyn yn cynnwys: Cynrychioli buddiannau Dŵr Cymru a’r tîm gyda’n cyflenwyr ynni a phartneriaid eraill Darparu cymorth i’ch cydweithwyr yn y tîm Gwella cyflawnrwydd data mesuryddion Dŵr Cymru ar gyfer trydan a nwy Cydweithredu â Chyflenwyr Ynni i sicrhau bod gweithgareddau mesuryddion, bilio a chasglu data yn cael eu cyflawni, neu eu huwchgyfeirio yn ôl yr angen Cydgysylltu ymweliadau safle i newid mesuryddion a chasglu data yn ôl yr angen Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl y gofyn i ddiwallu anghenion y busnes Nodi cyfleoedd ar gyfer effeithlonrwydd ynni ac arloesi Llunio adroddiadau rheolaidd ar ddefnydd, cynhyrchiad a chost ynni a rhannu’r rhain gyda’r bobl briodol yn y busnes Cynorthwyo’r gwaith o baratoi cyllidebau, cynllunio busnes a phrosesau adrodd rheoleiddio gyda data ac adroddiadau manwl yn ôl y gofyn Amdanoch chi Wedi cymhwyso i lefel safon A mewn disgyblaeth mathemateg, gwyddoniaeth neu gyllid neu â phrofiad perthnasol sylweddol a hyfforddiant mewn swydd Profiad o drin a chrynhoi llawer iawn o ddata â thystiolaeth o allu i greu a manipiwleiddio’r data hyn mewn taenlenni ac adroddiadau Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Dull hynod drefnus â’r gallu i reoli nifer o broblemau bach ar yr un pryd Sgiliau cyfathrebu da â’r gallu i sgwrsio â gweithrediadau rheng flaen a chyflenwyr ynni Yn gallu dangos dealltwriaeth o faterion ynni a gweithredu sylfaenol â phrofiad o weithio naill ai mewn swydd ynni neu weithrediadau Werth ei wybod Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

  • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
  • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
  • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
  • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
  • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
  • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
  • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
  • Cynllun beicio i'r gwaith
  • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
  • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
  • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
  • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
  • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig.

Pwy ydyn ni Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd. Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores