About this role
Rhif Cais y Swydd 9375 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau Cwmpas Cyflog £28,065.00 -£31,887.00 Lleoliad Clydach Dyddiad cau ceisiadau Dydd Sul 1 Tachwedd 2026 - 23:59 Werth ei wybod Mae’r Arolygydd SRF yn gyfrifol am ddarparu, cydgysylltu ac optimeiddio gweithgareddau Gwaredu Gwaddodion: Llifolchi (SRF) ar-safle ar draws rhwydwaith dosbarthu dŵr de Cymru. Prif ddiben y swydd yw gwella a chynnal ansawdd dŵr trwy lifolchi prif bibellau dŵr ac asedau cysylltiedig yn ddiogel, yn effeithiol ac yn effeithlon.
Oherwydd natur y swydd, bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud ar batrwm shifftiau nos, yn cynnwys pedair shifft 10 awr yr wythnos (22:00-08:00), dydd Llun i ddydd Iau. I gynnig amrywiaeth a chynnal ymgysylltiad gweithredu ehangach, bydd pob tîm yn gweithio wythnos oriau dydd unwaith bob wyth wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, 08:00–16:00, dydd Llun i ddydd Gwener fydd yr oriau gwaith, gan gynorthwyo gweithgareddau llifolchi ychwanegol, gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd, a blaenoriaethau gweithredu eraill.
- Hefyd, bydd gan bob aelod o’r tîm un diwrnod penodol bob pedair wythnos i gefnogi cyfarfodydd 1-i-1, sesiynau briffio’r tîm, datblygiad personol, hyfforddiant, a gweithgareddau ymgysylltu’r tîm cyffredinol Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Cyflawni Llifolchi Rhwydwaith Strategol
- Yn gyfrifol am gyflawni rhaglenni llifolchi a gynlluniwyd ac ymatebol ar draws rhwydwaith y de-ddwyrain.
- Gweithio yn unol â chynlluniau diffiniedig i weithredu hydrantau, falfiau ac asedau cysylltiedig yn ddiogel ac yn effeithlon i gyrraedd cyfraddau llif angenrheidiol i gael gwared ar waddodion.
- Gweithio ar y cyd yn rhan o dîm ehangach i gyflawni canlyniadau a ddymunir ar draws ardaloedd a dargedwyd.
- Rheoli llwyth gwaith yn y maes, gan flaenoriaethu tasgau ac ymateb i achosion brys i gynnal gweithrediad y rhwydwaith a boddhad cwsmeriaid yn ôl y gofyn.
- Cynorthwyo ymchwiliadau i broblemau perfformiad y rhwydwaith a chasglu data gweithredu.
- Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol trwy ddarpariaeth effeithlon ac effeithiol i sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar gwsmeriaid.
- Nodi cyfleoedd i wella methodolegau a phrosesau llifolchi. Gwelliannau Ansawdd Dŵr
- Cynorthwyo gweithgareddau sydd â’r nod o wella ansawdd dŵr a lleihau cysylltiadau cwsmeriaid yn ymwneud ag afliwiad.
- Arwain at yr ethos ‘Ansawdd Dŵr yn Gyntaf’ a sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson â diogelu asedau a chyflenwadau cwsmeriaid. Monitro ac Adrodd ar Berfformiad
- Cadw cofnodion cywir o weithgareddau a chanlyniadau llifolchi.
- Diogelu asedau’r cwmni trwy weithio gyda rhanddeiliaid a gweithredu gweithdrefnau adrodd perthnasol yn ôl y gofyn. Cydymffurfiad a Diogelwch Gweithredu
- Cydymffurfio â phob polisi Iechyd a Diogelwch, gan flaenoriaethu diogelwch cydweithwyr, contractwyr, cwsmeriaid a’r cyhoedd bob amser.
- Gweithredu asedau rhwydwaith yn ddiogel gan ddefnyddio egwyddorion ‘rhwydweithiau llonydd’ ac yn unol â’r weithdrefn berthnasol e.e., Gwaith Prif Bibellau Dŵr - HSP124.
- Sicrhau cydymffurfiad â rheoliadau dŵr a safonau ansawdd, gan ymchwilio ac uwchgyfeirio risgiau i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
- Cynnal a chadw offer llifolchi yn unol ag egwyddorion ‘Ansawdd Dŵr yn Gyntaf’ a sicrhau bod eich cerbyd mewn cyflwr diogel.
- Sicrhau cyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd yn ystod gweithgareddau llifolchi. Gwelliant Parhaus
- Cynorthwyo gweithgareddau ymateb brys a chyflawni dyletswyddau eraill yn ôl y gofyn.
- Monitro perfformiad y rhwydwaith, darganfod achos problemau a rhoi atebion effeithiol ar waith gan ddefnyddio egwyddorion hydrolig a hyfforddiant gweithredu.
- Ymrwymi i ddatblygiad proffesiynol parhaus a chefnogi eraill trwy rannu gwybodaeth a mentora. Cyfrifoldebau Ychwanegol
- Cyflawni unrhyw ddyletswyddau ychwanegol fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion busnes Amdanoch chi Mae’r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i’r swydd: Cymwysterau
- 5 TGAU Gradd A*-C (neu gyfatebol) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, neu brofiad gweithredu perthnasol yn y diwydiant dŵr.
- Trwydded Yrru’r DU ddilys lawn.
- Galluoedd Diwydiant Dŵr perthnasol neu barodrwydd i weithio tuag at gymwysterau ac achrediadau gweithredu a gydnabyddir gan y diwydiant. Profiad
- Profiad o weithredu mewn rhwydwaith dosbarthu dŵr a chyflawni gweithgareddau gweithredu yn y maes.
- Profiad o ddilyn gweithdrefnau gweithredu, asesiadau risg a systemau gwaith diogel.
- Profiad o nodi, ymchwilio a datrys problemau gweithredu mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Profiad o gasglu a chofnodi data gweithredu, tasgau ac asedau yn gywir.
- Gwybodaeth am asedau rhwydwaith dosbarthu dŵr, gan gynnwys prif bibellau, pibellau dosbarthu, falfiau, hydrantau, gosod mesuryddion, PRVs a ffitiadau cysylltiedig. Sgiliau
- Sgiliau cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid rhagorol.
- Galluoedd dadansoddol a datrys problemau cryf.
- Y gallu i flaenoriaethu llwyth gwaith a gweithio’n annibynnol.
- Sylw cryf i fanylion ac ymrwymiad i gydymffurfiad.
- Sgiliau cyfathrebu rhagorol e.e. eglur a chryno.
- Sgiliau Rhyngbersonol rhagorol e.e. datblygu cydberthynas, gwrando’n effeithiol ar bobl eraill.
- Sgiliau blaenoriaethu a’r gallu i reoli eich amser a’ch llwyth gwaith eich hun.
- Y gallu i ddysgu a defnyddio TG a meddalwedd gan gynnwys pecynnau Microsoft Office.
- Y gallu i weithio o dan bwysau a chyflawni gwaith i safon uchel â sylw da i fanylion.
- Y gallu i ddehongli diagramau rhwydwaith systemau mapio GIS a data gweithredu.
Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:
- Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol)
- Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn
- Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr
- Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim
- Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd
- Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir
- Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru
- Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle
- Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein
- Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos
- Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan.
Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.
Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni. Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol.
Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.
Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.