Now hiring

Syrfëwr Meintiau (Abergele, Cymru, GB, LL18 5TQ) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Abergele, Wales, GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9536 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Rheoli Costau Cwmpas Cyflog £47,492.00 -£54,618.00 Lleoliad Kinmel Park Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Syrfëwr Meintiau (Cynnal a Chadw) Eisiau defnyddio eich profiad masnachol a’ch profiad o gontractau NEC mewn rôl lle gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar draws ein rhwydwaith dŵr gwastraff? Ymunwch â Dŵr Cymru i’n helpu i ddarparu contractau effeithiol sy’n cynnig gwerth am arian ac sy’n cefnogi gwasanaeth hanfodol i’n cwsmeriaid a’n cymunedau. Yr hyn y byddwch yn gyfrifol amdano Fel ein Syrfëwr Meintiau (Cynnal a Chadw), byddwch yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli ein contractau Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn fasnachol, gan weithio’n agos gyda thimau gweithredol, darparwyr gwasanaethau a chydweithwyr ar draws y busnes.

  • Bydd eich cyfrifoldebau allweddol yn cynnwys: Cefnogi’r gwaith o gyflawni a gwella contractau’r Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn barhaus, gan sicrhau eu bod yn bodloni gofynion statudol, rheoleiddiol, ariannol a llywodraethu.
  • Darparu cyngor a chymorth masnachol i dimau gweithredol, gan helpu i nodi cyfleoedd, datrys ymholiadau a sefydlu arferion gorau.
  • Gwerthuso taliadau a chostau tasgau, codi tystysgrifau talu a chefnogi’r gwaith o asesu a gweinyddu digwyddiadau digolledu.
  • Datblygu a chynnal modelau ariannol ar gyfer gweithgareddau Trosglwyddo Carthffosydd Preifat a Draeniau Ochrol (PST), gan sicrhau bod ffynonellau data ategol yn gywir ac wedi’u dogfennu’n glir.
  • Monitro costau a gweithgarwch contractau yn erbyn rhagolygon, gan gefnogi croniadau misol cywir, adroddiadau a dyrannu costau.
  • Olrhain dyddiadau contractiol allweddol, taliadau a mesurau perfformiad er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau contractiol yn cael eu bodloni.
  • Cynnal ymweliadau safle pan fo angen i wirio gwaith sydd wedi’i gwblhau a chefnogi cofnodi gwybodaeth yn gywir drwy SAP a systemau perthnasol eraill.
  • Cynhyrchu a chyflwyno gwybodaeth gywir am gontractau a chyllid, gan gynnwys adroddiadau misol ar gostau, lefelau gweithgarwch a Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPA), gan gefnogi diwylliant o welliant parhaus ac arferion gorau.

Amdanoch chi Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau masnachol a dadansoddol cryf, sy’n gallu gweithio’n hyderus gyda gwybodaeth ariannol a chytundebol a meithrin perthnasoedd effeithiol gyda thimau gweithredol a darparwyr gwasanaethau.

  • Bydd gennych: Brofiad o weithio gyda chontractau NEC.
  • Byddai profiad o gontractau Rhwydwaith Dŵr Gwastraff yn fuddiol, er nad yw hyn yn hanfodol.
  • Sgiliau dadansoddi cryf, gyda’r gallu i ddehongli a chyflwyno gwybodaeth ariannol i gefnogi penderfyniadau busnes effeithiol.
  • Sgiliau cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid da, gyda’r hyder i gyflwyno gwybodaeth i dimau rheoli.
  • Y gallu i ddehongli a chymhwyso gofynion statudol a rheoleiddiol perthnasol.
  • Sgiliau TG cryf, yn enwedig Excel, Word a PowerPoint.
  • Trwydded yrru lawn a’r gallu i deithio’n rheolaidd yn unol â gofynion y busnes.
  • Werth ei wybod Lleoliad: Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn ein Swyddfa Parc Cinmel.
  • Gweithio hybrid: Byddwch yn treulio o leiaf ddau ddiwrnod yr wythnos ar safle neu yn y swyddfa, gyda'r hyblygrwydd i weithio o bell am y tri diwrnod sy'n weddill.
  • Teithio: Mae'r rôl yn cynnwys teithio'n rheolaidd i safleoedd o fewn y rhanbarth y cytunwyd arno.

Gellir hawlio milltiroedd busnes a chostau tanwydd yn unol â pholisi'r cwmni.

Dyddiad cau Byddwn yn adolygu ceisiadau wrth iddynt ddod i law, felly rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl. Bydd y swydd wag yn parhau ar agor nes i ni ddod o hyd i'r ymgeisydd cywir, er y gallwn ei chau'n gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau, neu ymestyn y dyddiad cau os oes angen.

Eisiau gwybod mwy?

I gael sgwrs anffurfiol am y rôl cyn gwneud cais, cysylltwch ag [email protected], gan ddyfynnu ID y Swydd yn llinell pwnc yr e-bost.

Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan!

Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Ydych chi'n meddwl mewn ffordd fasnachol? Allwch chi reoli portffolio o brosiectau cyfalaf cymhleth? Mae'r rôl hon wedi'i lleoli yn ein tîm peirianneg a byddwch chi'n gwneud y canlynol:

  • darparu gwasanaeth proffesiynol, masnachol a rheoli costau mewn sawl prosiect
  • rhoi cymorth a chyngor i dîm o reolwyr prosiectau
  • paratoi archebion gwaith
  • dilysu a chytuno ar werthoedd contractau a chostau targed gyda chontractwyr fframweithiau
  • cynnal dilysiadau misol ar gyfer gwaith a gwblhawyd Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777.

Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Skills

SAPExcelWordPowerPoint

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores