Now hiring

Hyfforddwr Gweithgareddau (Caerdydd, Cymru, GB, CF14) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9467 Math o Waith Achlysurol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £13.45 yr awr Lleoliad Llanishen (Caerdydd) Ymgeisiwch CGâPh – byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol tan i’r swydd gael ei llenwi ag ymgeisydd addas. Werth ei wybod 🌟 Cronfa Dalent Staff Dros Dro Tymhorol 2027 Hoffech chi ymuno â ni ar gyfer tymor 2027? Contract: Dros dro / dim oriau Hyfforddiant: Bwriedir cychwyn diwrnodau hyfforddi â thâl ym mis Ionawr 2027, gan gynnwys dau benwythnos cyn i’r tymor ddechrau yn ddelfrydol.

Patrwm gweithio: Bydd gwaith ar gael ar draws penwythnosau a gwyliau ysgol, gan gynnwys yn ystod cyfnod y gaeaf. Gan fod hwn yn gontract dim oriau, nid yw oriau wedi’u sicrhau. Cronfa dalent: Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn ymuno â’n cronfa dalent staff dros dro tymhorol 2027, y gellir cynnig gwaith dros dro ohoni yn seiliedig ar ofynion y busnes a’r gwaith sydd ar gael.

Hoffech chi wybod mwy? Os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd, cysylltwch â [email protected] , gan gynnwys Rhif Adnabod y Swydd yn y llinell bwnc. Pwy ydyn ni Ynglŷn â’n canolfan atyniad ymwelwyr... Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy’r flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un a hoffai ymuno â Dŵr Cymru. Mae’r safle yn brolio adeilad Atyniad Ymwelwyr o’r radd flaenaf â bwyty sydd â lle i 150, balconi â golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau ar y tir a’r dŵr, man dysgu addysgol, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a chaffi Grab & Go. Dewch i ymuno â’n tîm a gweithio yn y werddon werdd / las hon llai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd.

Hoffech chi weld mwy? Cymerwch olwg yma: https://lisvane-llanishen.com/ Amdanoch chi Byddwch yn mwynhau gweithio gyda phobl a helpu ymwelwyr i gael profiad diogel, difyr a chofiadwy. Byddwch yn gyfforddus yn gweithio yn rhan o dîm, tra hefyd yn defnyddio eich menter eich hun pan fydd angen. Profiad Hanfodol Profiad o weithio gyda’r cyhoedd a darparu gwasanaeth cynorthwyol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer.

  • Profiad o ddilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch.
  • Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol Brwdfrydig am roi ein cwsmeriaid gyntaf bob dydd.
  • Gallu gweithio’n hyderus ar eich liwt eich hun ac yn rhan o dîm.
  • Dealltwriaeth o ddiogelwch dŵr.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, â’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Saesneg.
  • Cyfforddus yn defnyddio TG ac yn dysgu systemau newydd.
  • Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi defnyddio ein systemau o’r blaen, byddwn yn darparu’r hyfforddiant sydd ei angen arnoch.
  • Gonest a phroffesiynol yn eich agwedd.
  • Agored i adborth, dysgu a datblygu sgiliau newydd.
  • Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Byddwch yn rhan o’n tîm Gweithgareddau, gan helpu i ddiogelu a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon dŵr, gweithgareddau ar y tir a meithrin tîm, tra’n sicrhau safon uchel o iechyd a diogelwch bob amser.
  • Mae ein Canolfannau Gweithgareddau ar agor 7 diwrnod yr wythnos, felly bydd y swydd yn cynnwys gweithio fin nos, penwythnosau a gwyliau banc.
  • Yr hyn y byddwch yn ei wneud Darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, gan gyfarfod, cyfarch a helpu pob ymwelydd i gael y mwyaf o’i ymweliad, gan gynnwys mewngofnodi cwsmeriaid, ymateb i ymholiadau am weithgareddau ac archebion a derbyn taliadau.
  • Cynorthwyo yn y ddarpariaeth o weithgareddau o ansawdd uchel ar y tir a/neu ar y dŵr, gan gynnwys rhaglenni meithrin tîm, yn unol â gofynion y Corff Llywodraethu Cenedlaethol (NGB) a Dŵr Cymru.
  • Cynorthwyo gyda’r broses o logi offer gweithgareddau, gan gynnwys darparu sesiynau briffio effeithiol ar ddiogelwch, a chynorthwyo cwsmeriaid sy’n defnyddio offer ar y safle.
  • Gweithio’n rhagweithiol yn rhan o dîm i baratoi a chlirio cyfleusterau ar-safle, tra’n helpu i gynnal cyflwr, diogelwch a glendid offer gweithgareddau i safon gyson uchel.
  • Helpu i sicrhau diogelwch pawb ar y safle, gan gynnwys cyflogeion, y rhai sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau a’r cyhoedd, gan ddilyn gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer adrodd digwyddiadau a chynnal diogelwch dŵr rhagorol.
  • Cyfathrebu ag ymwelwyr mewn ffordd frwdfrydig, wybodus a chynorthwyol, gan ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a chyflwyno portread cadarnhaol ar gyfer Dŵr Cymru.
  • Gweithio ochr yn ochr â’r tîm Parcmyn ar ddiogelwch a bioddiogelwch y cronfeydd dŵr, yn ogystal â chynorthwyo’r gwaith o gynnal a chadw’r safle a’i gadw’n daclus, gan gynnwys casglu sbwriel, glanhau toiledau, a chynnal a chadw adeiladau a’r safle.
  • Helpu i sicrhau bod rheolau’r safle ac ymyl y dŵr yn cael eu dilyn, yn enwedig y rheol ‘dim nofio mewn cronfeydd dŵr heb ganiatâd’, amseroedd agor a chau, a threfnu ymwelwyr yn ddiogel yn ystod cyfnodau prysur.
  • Gweithio ar y cyd â sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys elusennau bywyd gwyllt a grwpiau gwirfoddolwyr, a chynorthwyo gweithgareddau cadwraeth, addysgol, mynediad cyhoeddus a hamdden, diwrnodau agored a digwyddiadau.

Cynorthwyo’r tîm ehangach ac adrannau eraill, gan gynnwys y caffi neu’r tîm Parcmyn, fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes. Buddion Mae gennym fuddion gwych, gan gynnwys:

  • Adolygiad cyflog blynyddol
  • Gostyngiadau Staff ar gyfer ein hatyniadau ymwelwyr
  • Rhoddir hyfforddiant llawn a darperir gwisg
  • Man gweithio hyfryd
  • Oriau gwaith hyblyg Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sydd wir yn poeni am ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores