Now hiring

Cogydd (Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, LD65HP) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Job Requisition Number 9432 Work Type Parhaol Job Function Hamdden a Chroeso Salary Range £26,200.00 / Annum Base Closing Date Elan Valley (Postcode LD6 5HP) Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match.

Pwy ydyn ni Cogydd Oeddech chi'n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan[HS1] sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn? Mae’r safle’n cynnwys caffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr. Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma[HS2] i edrych ar ein gwefan - www.elanvalley.org.uk[HS3] Mae Cwm Elan[HS4] wedi'i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd. Gellir ei gyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy sydd â chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus da.

  • Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Byddwch yn chwarae rhan bwysig wrth greu profiad gwych i bawb sy’n ymweld â Chanolfan Ymwelwyr Cwm Elan.
  • Gan weithio’n agos gyda Goruchwyliwr a Rheolwr y Caffi, byddwch yn helpu i sicrhau bod cegin y caffi’n rhedeg yn esmwyth ac yn gweini bwyd ffres o ansawdd uchel y gall ymwelwyr ei fwynhau fel rhan o’u diwrnod gyda ni.
  • Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd yr awenau yn y gegin pan fydd y Goruchwyliwr i ffwrdd, gan gynnal safonau uchel o ran ansawdd bwyd, hylendid a gwasanaeth.
  • Bydd hyn yn cynnwys: Paratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel, gan ddilyn ein safonau cytunedig a’n targedau cost.
  • Gweithio’n agos gyda gweddill tîm y caffi i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn esmwyth a helpu i greu amgylchedd tîm cadarnhaol.
  • Darparu gwasanaeth cyfeillgar ac eithriadol a helpu i greu profiad gwych i’n hymwelwyr.
  • Ymfalchïo mewn cynnal cegin ddiogel, lân a threfnus, gan sicrhau bod gweithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn bob amser.
  • Meithrin gwybodaeth dda am ein bwydlenni ac alergenau bwyd er mwyn i chi allu helpu i ddarparu profiad diogel a phleserus i bob ymwelydd.
  • Cymryd rhan mewn cynllunio bwydlenni a chefnogi digwyddiadau yn y Ganolfan Ymwelwyr.
  • Helpu i reoli stoc ac archebu cyflenwadau er mwyn sicrhau bod gan y gegin bopeth sydd ei angen i ddarparu gwasanaeth llwyddiannus.
  • Amdanoch chi Cymwysterau Hanfodol Modd o deithio i’r safle 5 diwrnod yr wythnos gan ddefnyddio eich cludiant eich hun neu drafnidiaeth gyhoeddus (cod post LD6 5HP).
  • Profiad Hanfodol Profiad blaenorol amlwg o baratoi bwyd.
  • Profiad o weithio mewn cegin brysur fel cogydd commis neu gogydd.
  • Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol Y gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
  • Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid a chydweithwyr.
  • Y gallu i fod yn drefnus a dilyn prosesau.

Werth ei wybod Gweithio ar sail rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith 8 awr o hyd) Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf a bydd mwy o oriau ar gael bryd hynny Rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â [email protected] Sylwer, efallai y byddwn yn cau'r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes.

Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar fodloni’r holl wiriadau. Bydd rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Buddion Rydym yn cynnig manteision gwych, gan gynnwys:

  • Cynnydd blynyddol yn y cyflog byw
  • Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau i ymwelwyr
  • Darperir hyfforddiant a gwisg
  • Lleoliad gwaith hardd
  • Oriau gweithio hyblyg (ar gais) Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ei amgylchedd hardd yn bwysig iddo.

Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores