About this role
Rhif Cais y Swydd 9339 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau Cwmpas Cyflog £31,395.00 -£35,682.00 Lleoliad Court Farm Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Fel Technegydd Cynnal a Chadw (pwyslais ar systemau mecanyddol), bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys y canlynol: Yn y swydd hon i’w chynnal yn y maes, byddwch yn rhan o dîm sy'n gweithio ar weithgareddau wedi'u cynllunio ar gyfer asedau Dŵr Cymru e.e. prosiectau gwella a gwaith cynnal a chadw ataliol, yn ogystal ag ymateb i fethiannau ledled yr ardal. Ymchwilio i natur methiannau peiriannau a gwneud gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ac wedi'i drefnu ar yr holl offer sy'n ymwneud â sylfaen asedau Dŵr Cymru er mwyn lleihau methiannau peiriannau. Cyflawni gosodiadau tebyg am debyg, adnewyddu a chynorthwyo gyda chomisiynu offer yn ôl manyleb, ar amser ac yn unol â gweithdrefnau'r cwmni. Cynnal archwiliad o bartiau sbâr a deunyddiau sydd eu hangen i gwblhau gwaith yn effeithiol, archebu eitemau angenrheidiol trwy eich goruchwyliwr neu yn uniongyrchol oddi wrth gyflenwr. Dilyn gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni - bod yn atebol am eich iechyd a'ch diogelwch eich hun a bod a dyletswydd i ofalu am eich cydweithwyr ac unrhyw un yr effeithir arno gan y gwaith rydych chi'n ei wneud. Ymdrin â sefyllfaoedd sydd weithiau’n anodd mewn modd cyfeillgar, cadarnhaol a phroffesiynol, gan ymdrechu i gael datrysiad cyflym. Diweddaru gwybodaeth mewn systemau TG amrywiol yn ddyddiol. Cysylltu â chontractwyr allanol ynghylch cynlluniau cyfalaf mawr gan sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol ac yn effeithlon ac yn cydymffurfio'n llawn â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch a gweithdrefnau’r cwmni. Trefnu eich amser eich hun, ymdrin â gwaith arferol gydag ychydig iawn o oruchwyliaeth. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes. Amdanoch chi • Prentisiaeth gydnabyddedig mewn peirianneg fecanyddol/drydanol neu ddeuol a ddyfarnwyd gyda chymhwyster NVQ Lefel 3 neu gymhwyster City & Guilds sydd gyfwerth • Trwydded yrru lawn • Profiad o weithio mewn tîm • Profiad o ddadansoddi gwybodaeth i adnabod problemau posibl • Profiad ymarferol a gafwyd mewn diwydiant i gefnogi eich prentisiaeth a sicrhau cydymffurfiaeth ac ymlyniad llawn wrth yr holl weithdrefnau Iechyd a Diogelwch • Gallu cyfathrebu'n dda, gwrando ac ymateb yn briodol i ddatrys problemau • Yn gallu creu a chynnal rhwydweithiau da gydag adrannau mewnol • Yn gallu gweithio i ddyddiadau cau tynn, weithiau mewn amgylchiadau anodd • Ymwybyddiaeth o gyrff rheoleiddio fel Yr Arolygiaeth Dŵr Yfed (DWI) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) • Yn gallu defnyddio pecynnau meddalwedd Microsoft a systemau gweithredol eraill Werth ei wybod Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cymryd rhan ar alwad (1 wythnos allan o bob 6 wythnos), a hefyd yn cymryd rhan mewn 260 awr o amser gwaith wedi'i gynllunio. Darperir fan cwmni I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â [email protected] Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.