Now hiring

GGoruchwyliwr Gwasanaeth Bwyd (Rhaeadr Gwy, Cymru, GB, ld6 5hp) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9345 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £27,100.00 -£27,100.00 Lleoliad Elan Valley Pwy ydyn ni Ond oeddech chi'n gwybod bod gennym hefyd safle atyniad i ymwelwyr yng Nghwm Elan sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn. Mae gan y safle gaffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy'n cynnig gweithgareddau ar y tir ac yn y dŵr. Dewch i ymuno â'n tîm brwdfrydig a gweithio yn un o'r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma i edrych ar ein gwefan www.elanvalley.org.uk Mae Cwm Elan ym Mhowys yng nghanolbarth Cymru, ychydig oriau yn unig o Birmingham a Chaerdydd. Gellir cyrraedd yno’n hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy lle ceir gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus da. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Goruchwylio'r gegin yn bennaf, a chefnogi goruchwyliwr blaen y tŷ i sicrhau bod bwyd o ansawdd rhagorol yn cael ei ddarparu gan gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle. Bydd hyn yn cynnwys: Paratoi, coginio a gweini prydau, rheoli a threfnu cynorthwywyr cegin i ddarparu bwyd o ansawdd uchel Sicrhau diogelwch yr holl bobl ar y safle Archebu'r holl gyflenwadau cegin a nwyddau i'w hailwerthu gan gyflenwyr dynodedig Cynnal yr holl gofnodion HACCP ar gyfer y gegin bob amser ac i'r safon ofynnol Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol Gwneud ymdrech i ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir fel profiad i gwsmeriaid Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a'r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel Cynnal safonau hylendid bwyd, cynnal a chadw a thacluso y gegin, y mannau manwerthu a’r bwyty yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes Mae hon yn rôl weithredol iawn. Amdanoch chi Rydym yn chwilio am berson creadigol a chadarnhaol i ymuno â'n tîm! Dealltwriaeth dda o MS Office a phrofiad o ddefnyddio systemau man gwerthu Gwiriad DBS boddhaol Profiad ymarferol o iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd mewn atyniad i ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty Profiad o weithio gyda'r cyhoedd Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Profiad o wasanaeth cwsmeriaid Arlwyo/Manwerthu/Lletygarwch Y gallu i weithio ar eich pen eich hun Werth ei wybod Darperir gwisg Tîm cyfeillgar mewn busnes newydd gyda chyfleoedd cyffrous i ddatblygu gyrfa 37 awr dros 5 diwrnod allan o 7 Patrymau shifft arferol: naill ai 8.30am-4.30pm neu 10am-6.30pm (ystyrir hyblygrwydd) I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â [email protected] Buddion Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys: · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau ymwelwyr · Darperir hyfforddiant llawn a gwisg · Lleoliad gweithio hardd · Oriau gweithio hyblyg Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ein hamgylchedd hardd yn bwysig iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores