About this role
Rhif Cais y Swydd 9186 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau Cwmpas Cyflog £34,566.00 -£40,821.00 Lleoliad Parc y Splott Dyddiad cau ceisiadau Dydd Sul 11 Hydref 2026 - 23:59 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Gweithio'n agos gyda thimau dŵr gwastraff yr ardal i roi cefnogaeth ac arbenigedd ICA ar gyfer gwaith trin dŵr gwastraff yr ardal ac asedau cysylltiedig Sicrhau cydymffurfiaeth ag amserlen cynnal a chadw arfaethedig yr ardal Gwneud gwaith cynnal a chadw wedi'i gynllunio ar beiriannau ICA, a gwneud penderfyniadau ar dasgau ac amlder er mwyn cynnal cydbwysedd rhwng gwirio’n rheolaidd a nifer y methiannau Ymateb i fethiannau ar amrywiaeth eang iawn o beiriannau ICA, asesu problemau, penderfynu ar weithredu, caffael darnau y mae angen eu hadnewyddu a gwneud atgyweiriadau yn ôl yr angen Argymell newidiadau yn y dyluniad os oes yr angen amdanynt, er mwyn sicrhau bod y gwaith yn parhau i weithredu'n effeithlon ac yn effeithiol ac er mwyn cynnal lefelau gwasanaeth Rhaglennu Rheolwyr Rhesymeg Raglenadwy (PLC), telemetreg a systemau SCADA i reoli a monitro peiriannau di-griw yn effeithlon a diwygio rhaglenni presennol mewn ymateb i ddiffygion a newidiadau gweithredol er mwyn optimeiddio lefelau gwasanaeth Adolygu datrysiadau ICA o gynlluniau cyfalaf bach i sicrhau gweithredu’n gywir Gweithredu a chynnal gweithdrefnau’r System Rheoli Integredig (IMS) i safon ISO bob amser. Sicrhau bod holl offer ICA yn cael ei raddnodi gan y weithdrefn ar amleddau wedi’u diffinio a’i fod yn bosibl ei archwilio, gan gadw cofnodion System Rheoli Adeiladu (BMS) i sicrhau eu bod yn foddhaol ar gyfer archwiliadau mewnol a’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) Sicrhau bod gweithredu holl gysylltiadau cyfathrebu i orsafoedd allanol dŵr gwastraff yn cael eu cynnal a’u bod yn weithredol bob amser Gweithredu a chynnal a chadw'r System Cynnal a Chadw sydd wedi’i chynllunio Bod yn rhan weithredol o ddylunio, gosod a chomisiynu Cynlluniau Cyfalaf i wella ICA, optimeiddio prosesau a monitro a rheoli gollyngiadau amgylcheddol Cysylltu'n agos o fewn y Bartneriaeth Gynghrair i sicrhau bod pob cynllun cyfalaf mawr yn cael ei weithredu'n effeithiol ac yn effeithlon Dylunio, gosod, comisiynu a chynnal a chadw pob cysylltiad offeryniaeth a chyfathrebu i asedau dŵr gwastraff Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n ofynnol yn ôl y galw i ddiwallu anghenion y busnes Amdanoch chi HNC neu gyfwerth ym maes mesur a rheoli diwydiannol Trwydded yrru lân Prentisiaeth Gwasanaethu Amser mewn rôl berthnasol – byddai electroneg, offeryniaeth neu drydanol yn ddymunol; neu yn gwbl gymwys yn o leiaf un o'r ffrydiau gwaith gyda phrofiad amlwg Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Sgiliau TG cryf Chwaraewr tîm sy'n deall pwysigrwydd perchnogaeth ac atebolrwydd Yn gallu datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol ar draws y busnes Sgiliau cyfathrebu effeithiol Werth ei wybod Bydd gofyniad i gymryd rhan mewn rota wrth gefn Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â ni [email protected] Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr • Cynllun beicio i'r gwaith • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig Pwy ydyn ni Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd. Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni. Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu. Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.