Now hiring

Gweithredwr Proses Trin Dŵr Gwastraff (Trefynwy, Cymru, GB, NP25 4LG) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9223 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Gweithrediadau Cwmpas Cyflog £28,065.00 Lleoliad Monmouth Dyddiad cau ceisiadau Dydd Sul, 20 Medi 2026 - 23:59 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Ar draws ein rhanbarth mae gennym 833 o safleoedd trin dŵr gwastraff, byddwch yn gyfrifol am weithredu a chynnal a chadw sawl un o'n Gweithfeydd Trin Dŵr Gwastraff a gorsafoedd pwmpio carthion cysylltiedig yn unol â thrwyddedau amgylcheddol i ofynion Systemau Rheoli Ansawdd ac Iechyd a Diogelwch y cwmni. Bydd hyn yn cynnwys Cymryd cyfrifoldeb am weithredu safleoedd yn unol â thrwyddedau amgylcheddol i ddiogelu'r amgylchedd; cynnal a chadw cyffredinol yr offer a’r safle, cymryd samplau elifiant i fonitro a gwella perfformiad biolegol Cymryd cyfrifoldeb am ganfod a lle bo'n berthnasol ymgymryd â gwaith ymatebol yn ôl yr angen. Nodi gwaith ymatebol ar gyfer offer pan fo angen a chysylltu â thîm crefft aml-ddisgyblaeth i hwyluso atgyweiriadau Nodi risgiau llygredd posibl o'n hasedau, cymryd mesurau i atal llygredd, a’i uwchgyfeirio pan fo angen Cysylltu a chydlynu gyda Goruchwyliwr yr ardal ac aelodau'r tîm ar weithgareddau gweithredu a gwelliant parhaus ar gyfer yr ardal Cymryd cyfrifoldeb am ddiogelwch personol a chydweithwyr trwy gydymffurfio â gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch y cwmni Deall a chadw at ofynion system ansawdd i sicrhau cydymffurfiaeth archwilio Cymryd perchnogaeth o safleoedd, sicrhau bod safonau cynnal a chadw yn cael eu cynnal a diffygion yn cael eu cofnodi Yn barod i ddatblygu a dysgu o fewn y rôl a chael yr hyblygrwydd a'r cymhwysedd i weithredu a chynnal nifer o safleoedd Cymryd rhan mewn trefniadau a dirprwyo mewn ardal weithredu pan fo gwyliau blynyddol a salwch Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes Bod yn rhan o rota wrth gefn y tu allan i oriau gwaith Amdanoch chi Yn frwdfrydig am roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Ymwybyddiaeth o gyrff rheoleiddio fel Asiantaeth yr Amgylchedd/CNC Yn gallu defnyddio systemau cyfrifiadurol Angerddol am ein hamgylchedd awyr agored a diogelu ein hamgylchedd Chwaraewr tîm, sy'n barod i gymryd rhan yn yr holl ofynion hyfforddi angenrheidiol sy'n ofynnol ar gyfer y rôl Werth ei wybod Gwaith teithiol aml-safle o fewn ardal ddaearyddol ddiffiniedig, dim gweithio gartref Yn gweithio 1 penwythnos ym mhob 4 (8 awr ar ddydd Sadwrn ac 8 awr ar ddydd Sul), a 260 awr o amser gwaith wedi'i gynllunio sydd heb ei neilltuo, gyda'r potensial i enn Darperir Cerbyd Cwmni Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: • Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) • Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn • Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr • Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim • Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd • Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir • Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr • Cynllun beicio i'r gwaith • Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru • Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle • Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein • Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos • Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Pwy ydyn ni Oes gennych chi sgiliau cyfathrebu da ac yn mwynhau cydweithio ag amrywiaeth o gwsmeriaid? Oes gennych chi ddealltwriaeth o'r broses o drin Dŵr Gwastraff? Byddwch chi'n gwneud y canlynol fel rhan o'r rôl hon: - Cynnal lefelau da o stoc a phrynu stoc yn ôl y gofyn gan ddefnyddio system TG fewnol, gan fod yn ymwybodol o gyfyngiadau cyllidebau. - Rhoi cymorth i gydweithwyr a chontractwyr allanol sy'n gweithio ar y safle, gan sicrhau ansawdd ac Iechyd a Diogelwch. - Cynllunio gwaith gyda goruchwylwyr a chydweithwyr eraill er mwyn sicrhau nad yw'r broses a gynlluniwyd i gau safle yn amharu ar wasanaethau. - Bod yn rhan o'r rotas gwyliau a chyflenwi absenoldebau oherwydd salwch. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores