About this role
Rhif Cais y Swydd 9166 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £27,000.00 Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau Llanishen 23:59 on 13/09/2026 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Goruchwylio'r gegin ac ardaloedd y bwyty i sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei ddarparu wrth gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle. Bydd hyn yn cynnwys: Ar gyfartaledd, un diwrnod yr wythnos yn cyflawni rôl Rheolwr ar Ddyletswydd, gan gymryd cyfrifoldeb arweiniol am gydlynu'r safle cyfan fel rhan o'r tîm rheoli ehangach. Sicrhau Iechyd a Diogelwch pob ymwelydd a chwsmer sy'n defnyddio cyfleusterau'r safle, cymryd rhan weithredol yn monitro diogelwch, sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru’n gyson a bod pob ddigwyddiad a damwain yn cael eu cofnodi yn unol â gweithdrefnau gofynnol y cwmni. Ynghyd â Rheolwr y Caffi, archebu holl gyflenwadau’r gegin a stoc i'w hailwerthu gan gyflenwyr cymeradwy. Cynnal a chadw holl gofnodion HACCP y gegin bob amser ac i'r safon ofynnol. Paratoi, coginio a gweini prydau bwyd, rheoli a threfnu cynorthwywyr y caffi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel. Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir fel profiad i gwsmeriaid. Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a'r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel. Ymgysylltu â chwsmeriaid fel llysgennad Dŵr Cymru. Cynnal y safonau hylendid bwyd, cynnal a chadw a thaclusrwydd ardaloedd y gegin, y bwyty a manwerthu yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan Reolwr y Caffi i ddiwallu anghenion y busnes. Cefnogi recriwtio cynorthwywyr Caffi a rheoli gofynion hyfforddi a sefydlu pob cydweithiwr newydd i sicrhau eu bod yn gwbl gymwys i weithio yn y ganolfan ac oddi yno. Dirprwyo ar gyfer Rheolwr y Caffi yn ei absenoldeb. Ymgymryd â rôl Rheolwr Dyletswydd ar amserlen gydag aelodau allweddol eraill o'r tîm. Amdanoch chi Gofynion Hanfodol Cymwysterau Ardystiad Hylendid Bwyd Lefel 3 cyfredol o leiaf Gwiriad DBS boddhaol Profiad Profiad iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd ymarferol mewn atyniad ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty Profiad o weithio gyda'r cyhoedd Gwybodaeth a Sgiliau Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Profiad goruchwylio ym maes arlwyo a cheginau masnachol Gwybodaeth neu arbenigedd gwasanaeth cwsmeriaid ym maes arlwyo/manwerthu Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun Ymwybyddiaeth fasnachol Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg Werth ei wybod Gwybodaeth Ychwanegol Dyddiad dechrau : Cyn gynted â phosibl. Bydd angen gwiriad DBS boddhaol cyn yr apwyntiad. Oherwydd natur ein diwydiant, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus ddarparu geirda boddhaol, cwblhau asesiad meddygol ar ôl y cynnig, a chael gwiriad cofnodion troseddol Datgeliad Sylfaenol. Efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol neu gymeradwyaeth diogelwch ar rai rolau. Darperir rhagor o fanylion ar ôl i chi derbyn cynnig. Buddion Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.