Now hiring

Arbenigwr Adrodd Rheoleiddiol (Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9110 Math o Waith Dros Dro (contract 12 mis) Swyddogaeth y Swydd Cyllid Cwmpas Cyflog £52,793.00 -£62,032.00 y flwyddyn Lleoliad Dyddiad Cau South East Hub (Caerdydd / Casnewydd) Hybrid 23:59 ar 09 Medi 2026 Byddwch wrth wraidd cyflawni ac adrodd ar rai o raglenni buddsoddi mwyaf Dŵr Cymru. Gyda thua £2.5 biliwn o fuddsoddiad yn cael ei wneud ar draws ein hasedau dŵr a dŵr gwastraff, mae’r rôl hon yn cynnig cyfle unigryw i gael mewnwelediad i’r ffordd y mae cynlluniau mawr yn cael eu cynllunio, eu cyflawni a’u sicrhau. Byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr ym meysydd Rheoli Asedau, Gweithrediadau, Cyllid a Chyflawni Cyfalaf, gan feithrin perthnasoedd gwerthfawr a datblygu dealltwriaeth eang o’r busnes. Mae’n gyfle gwych i ehangu eich profiad, gwella eich rhwydwaith proffesiynol a chwarae rôl allweddol wrth ddangos ein perfformiad a’r hyn rydym yn ei gyflawni i gwsmeriaid a rheoleiddwyr. Trosolwg o’r rôl Mae’r Arbenigwr Adrodd Rheoleiddiol yn gyfrifol am sicrhau bod y data rheoleiddiol a gyflwynir yn cael eu hadrodd mewn modd cywir, amserol a chydymffurfiol. Mae’r rôl yn gweithredu fel arbenigwr pwnc ar gyfer Ymrwymiadau Perfformiad, Cymhellion Cyflawni Canlyniadau, Cyflawniadau Rheoli Prisiau ac Adrodd Perfformiad Amgylcheddol. Mae’r rôl yn darparu arweiniad, sicrwydd a chymorth technegol ar draws y busnes. Mae deiliad y swydd yn chwarae rôl hanfodol mewn cylchoedd adrodd blynyddol a chwarterol, cyflwyniadau rheoleiddiol, a gweithgareddau sicrwydd parhaus. Yr hyn y byddwch chi’n ei wneud Cyfrifoldebau allweddol y rôl: Rheoli pob agwedd ar adrodd rheoleiddiol, gan gynnwys cyflwyniadau, datganiadau methodoleg, matricsau risg, a meincnodi. Cynnal gwybodaeth arbenigol am Ymrwymiadau Perfformiad, Cymhellion Cyflawni Canlyniadau, Cyflawniadau Rheoli Prisiau, Mesurau Asesu Perfformiad Amgylcheddol, a Gofynion Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynhyrchu adroddiadau diwydrwydd dyladwy manwl, gan nodi risgiau, gwendidau ac argymhellion, a monitro gweithredu camau gwella. Darparu hyfforddiant, her a chefnogaeth i berchnogion data i gryfhau adroddiadau rheoleiddiol, llwybrau archwilio a llywodraethu ar draws yr holl setiau data rheoleiddiol. Hyfforddi a mentora perchnogion data i gynnal datganiadau methodoleg cywir. Darparu cymorth adrodd rheoleiddiol i’r busnes, gan roi cyngor ar ddehongli gofynion a disgwyliadau rheoleiddiol yn ôl yr angen. Arwain adolygiadau diwydrwydd dyladwy o ddata anariannol allweddol. Cynnal perthnasoedd cryf â thimau Sicrwydd/Archwilio allanol. Amdanoch chi Mae’r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i’r rôl: Profiad Profiad o weithio gyda gofynion adrodd rheoleiddiol, prosesau adrodd perfformiad neu archwilio mewn amgylchedd rheoleiddiedig. Profiad profedig o goladu, dilysu a chyflwyno setiau data cymhleth i randdeiliaid mewnol ac allanol. Profiad o gynhyrchu neu sicrhau ansawdd adroddiadau, datganiadau neu gyflwyniadau ffurfiol ar gyfer cyrff rheoleiddio. Profiad o dywys, hyfforddi neu gefnogi perchnogion data i gryfhau ansawdd data a phrosesau adrodd. Gwybodaeth a sgiliau Dealltwriaeth gref o ofynion adrodd rheoleiddiol (e.e. Adroddiad Perfformiad Blynyddol, Ymrwymiadau Perfformiad, Cymhellion Cyflawni Canlyniadau, Perfformiad Amgylcheddol, rhwymedigaethau Rheoli Prisiau). Sgiliau dadansoddi rhagorol a’r gallu i ddeall, paratoi, dehongli a chysoni data cymhleth o nifer o systemau. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf a’r gallu i lunio datganiadau methodoleg glir, dogfennaeth sicrwydd ac adroddiadau perfformiad. Lefel uchel o sylw i fanylion ac ymwybyddiaeth gref o ansawdd, archwilio a sicrwydd data. Y gallu i feithrin perthnasoedd effeithiol ar draws pob lefel o’r sefydliad a chyda darparwyr sicrwydd allanol. Sgiliau cynllunio a threfnu cryf a’r gallu i weithio i ddyddiadau cau tynn yn ystod cyfnodau adrodd prysur. Y gallu i ddylanwadu ar gydweithwyr a’u hyfforddi ar safonau adrodd, perchnogaeth data ac arferion da. Da i’w wybod Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rôl hon, cysylltwch â [email protected] Sylwer, efallai y byddwn yn cau’r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores