Now hiring

Goruchwyliwr Caffi (Hwlffordd, Cymru, GB, SA63 4RR) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

GBOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd 9098 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £21,680 am 29.6 awr yr wythnos Band 3 (£27,100 y flwyddyn, pro rata) Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau Llys y Fran Sir Benfro (SA63 4RR) 23:59 ar 01 Medi 2026 Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Goruchwylio'r gegin ac ardaloedd y bwyty i sicrhau bod gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol yn cael ei ddarparu wrth gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle. Bydd hyn yn cynnwys: Ar gyfartaledd, un diwrnod yr wythnos yn cyflawni rôl Rheolwr ar Ddyletswydd, gan gymryd cyfrifoldeb arweiniol am gydlynu'r safle cyfan fel rhan o'r tîm rheoli ehangach. Sicrhau Iechyd a Diogelwch pob ymwelydd a chwsmer sy'n defnyddio cyfleusterau'r safle, cymryd rhan weithredol yn monitro diogelwch, sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru’n gyson a bod pob ddigwyddiad a damwain yn cael eu cofnodi yn unol â gweithdrefnau gofynnol y cwmni. Ynghyd â Rheolwr y Caffi, archebu holl gyflenwadau’r gegin a stoc i'w hailwerthu gan gyflenwyr cymeradwy. Cynnal a chadw holl gofnodion HACCP y gegin bob amser ac i'r safon ofynnol. Paratoi, coginio a gweini prydau bwyd, rheoli a threfnu cynorthwywyr y caffi i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o ansawdd uchel. Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir fel profiad i gwsmeriaid. Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a'r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel. Ymgysylltu â chwsmeriaid fel llysgennad Dŵr Cymru. Cynnal y safonau hylendid bwyd, cynnal a chadw a thaclusrwydd ardaloedd y gegin, y bwyty a manwerthu yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru. Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan Reolwr y Caffi i ddiwallu anghenion y busnes. Cefnogi recriwtio cynorthwywyr Caffi a rheoli gofynion hyfforddi a sefydlu pob cydweithiwr newydd i sicrhau eu bod yn gwbl gymwys i weithio yn y ganolfan ac oddi yno. Dirprwyo ar gyfer Rheolwr y Caffi yn ei absenoldeb. Ymgymryd â rôl Rheolwr Dyletswydd ar amserlen gydag aelodau allweddol eraill o'r tîm. Amdanoch chi Gofynion Hanfodol Cymwysterau Ardystiad Hylendid Bwyd Lefel 3 cyfredol o leiaf Gwiriad DBS boddhaol Profiad Profiad iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd ymarferol mewn atyniad ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty Profiad o weithio gyda'r cyhoedd Gwybodaeth a Sgiliau Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Profiad goruchwylio ym maes arlwyo a cheginau masnachol Gwybodaeth neu arbenigedd gwasanaeth cwsmeriaid ym maes arlwyo/manwerthu Yn gallu gweithio ar eich liwt eich hun Ymwybyddiaeth fasnachol Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg Werth ei wybod Patrwm Gweithio Mae'r rôl hon wedi'i chontractio ar gyfer 29.6 awr yr wythnos , a'i gweithio dros bedwar diwrnod, 7.4 awr y dydd , drwy gydol y flwyddyn. Gellir gweithio pedwar diwrnod gwaith penodol a chytuno arnynt ymlaen llaw, ac rydym yn cynnig hyblygrwydd i ddarparu ar gyfer anghenion unigol, yn amodol ar ofynion y busnes. Mae'r rôl yn gofyn eich bod ar gael i weithio yn ystod gwyliau ysgol, penwythnosau a gwyliau banc, gyda disgwyliad o weithio tua un diwrnod bob penwythnos ar gyfartaledd. Efallai y bydd angen hyblygrwydd ychwanegol yn ystod cyfnodau gweithredol arbennig o brysur. Pan fydd oriau ychwanegol yn cael eu gweithio y tu hwnt i ofynion y contract, bydd gan weithwyr hawl i amser o’r gwaith yn lle tâl (TOIL) yn unol â gweithdrefnau'r cwmni. Gwybodaeth Ychwanegol Dyddiad dechrau : Cyn gynted â phosibl. Bydd angen gwiriad DBS boddhaol cyn yr apwyntiad. Oherwydd natur ein diwydiant, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus ddarparu geirda boddhaol, cwblhau asesiad meddygol ar ôl y cynnig, a chael gwiriad cofnodion troseddol Datgeliad Sylfaenol. Efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol neu gymeradwyaeth diogelwch ar rai rolau. Darperir rhagor o fanylion ar ôl i chi derbyn cynnig. Trafodaeth Anffurfiol Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y rôl, cysylltwch â Jacob Porter yn [email protected] , gan ddyfynnu Cod Swydd 9098 fel pwnc. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores