About this role
Rhif Cais y Swydd 8774 Math o Waith Parhaol (5 diwrnod yr wythnos) Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £26,000.00 y flwyddyn (yn seiliedig ar 37 awr yr wythnos) Lleoliad Dyddiad Cau Llys y Fran, Sir Benfro (SA63 4RR) Ymgeisiwch cyn gynted â phosibl – byddwn yn adolygu ceisiadau yn wythnosol tan i’r swydd gael ei llenwi ag ymgeisydd priodol. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Byddwch yn gweithio’n agos gyda Rheolwr y Caffi a Chogydd ychwanegol i sicrhau gweithrediad didrafferth cegin y caffi. Byddwch yn goruchwylio’r gwaith o redeg y gegin, gan sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau uchel a bennwyd o hylendid bwyd a phroffesiynoldeb, tra’n gweini bwyd o ansawdd uchel i’n hymwelwyr, a baratowyd ac a goginiwyd ar y safle. Bydd hyn yn cynnwys: Paratoi, coginio a gweini prydau o ansawdd uchel i’r safon a nodir yn y gweithdrefnau ac yn unol â thargedau cost Cyfathrebu’n effeithiol â holl aelodau’r tîm Darparu gwasanaeth rhagorol i westeion Sicrhau bod yr holl weithdrefnau diogelwch bwyd yn cael eu dilyn ac y cydymffurfir â nhw, gan sicrhau bod y gegin yn ddiogel, wedi’i diheintio ac yn lân bob amser Dangos gwybodaeth gyflawn o bob bwydlen ac alergen bwyd Cynorthwyo gwaith cynllunio bwydlenni a digwyddiadau Cynorthwyo gydag archebu stoc i sicrhau bod lefelau stoc digonol yn cael eu cynnal ar gyfer y gwasanaeth Amdanoch chi Profiad Hanfodol Profiad o weithio mewn cegin brysur fel dirprwy gogydd neu gogydd Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol Yn gallu darparu lefelau uchel o wasanaeth cwsmeriaid Yn gallu cyfathrebu’n effeithiol gyda chwsmeriaid a chydweithwyr Yn gallu bod yn drefnus a dilyn proses Buddion Gweithio 5 o bob 7 diwrnod yr wythnos (rota yn cael ei gytuno un mis ymlaen llaw) Contract llawn amser 37 awr yn gweithio oriau blynyddol Mae’n rhaid gallu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol Bydd y swydd am bum diwrnod yr wythnos yn gweithio ar rota o ddydd Llun i ddydd Sul ag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gwmpasu diwrnod gwaith hiraf posibl o 8 awr) Amrywiaeth o batrymau shifftiau ar gael, er y bydd angen i ymgeiswyr fod yn hyblyg i weithio ar ddiwrnodau gwaith a phenwythnosau Yn cychwyn cyn gynted â phosibl Bydd angen archwiliad boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y dyddiad cychwyn ar gyfer pob ymgeisydd llwyddiannus. Os hoffech drafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â: [email protected] a rhowch rif adnabod y swydd [8774] yn y llinell pwnc. Sylwer ei bod yn bosibl y byddwn yn cau’r swydd hon yn fwy buan os oes angen. Ymgeisiwch cyn gynted ag y gallwch. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, archwiliad meddygol ar ôl cael cynnig, ac archwiliad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol arnom ar gyfer pob cyflogai newydd sy’n ymuno â’r busnes. Efallai y bydd angen gwiriadau ac archwiliad diogelwch ychwanegol ar gyfer rhai swyddi, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob archwiliad. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau’r archwiliadau hyn mewn e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.