About this role
Cadeirydd y Cyngor, Prifysgol Bangor
Ers ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o ragoriaeth academaidd, a phwyslais cryf ar brofiad myfyrwyr.. Heddiw mae tua 10,000 o fyfyrwyr yn astudio yn y Brifysgol. Mae ganddi tua 1,700 o staff mewn deuddeg o Ysgolion Academaidd o fewn tri Choleg, wedi eu cefnogi gan nifer o Wasanaethau Proffesiynol.
Mae Prifysgol Bangor yn falch o’i chymeriad dwyieithog nodedig, lle mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal fel ieithoedd dysg, gwaith a chymuned. Saif y Brifysgol yn un o gadarnleoedd yr iaith, ac yn hyn o beth mae hi wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu dwyieithrwydd ym mhob agwedd ar ei gweithgareddau. Mae’r ymrwymiad hwn yn cyfoethogi profiad y myfyrwyr a’r staff, yn cryfhau ein cysylltiad â’r cymunedau a wasanaethwn, ac yn adlewyrchu ein cred bod amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol yn ffynhonnell o ragoriaeth academaidd, arloesedd a chynhwysiant. Fel sefydliad gwirioneddol ddwyieithog, rydym yn chwilio am arweinwyr a fydd yn hyrwyddo ac yn meithrin y nodwedd ddiffiniol hon o hunaniaeth a dyfodol y Brifysgol.
Mae’r Brifysgol wedi’i rhestru yn safle 30 yn y Deyrnas Unedig am effaith gymdeithasol ei hymchwil yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf; mae hi ar y brig yng Nghymru ac yn safle 17 yn y Deyrnas Unedig ar restr University Compare 2027; yn ail yng Nghymru, yn safle 40 yn y Deyrnas Unedig ac yn safle 360 yn y byd ar restr TIME 2026 o Brifysgolion Gorau’r Byd; ymhlith y 50 uchaf yn y Deyrnas Unedig yn y Complete University Guide 2027; ac ymhlith y 10 uchaf yn y Deyrnas Unedig ac yn safle 74 yn y byd am gynaliadwyedd yn y Times Higher Education (THE) Sustainability Impact Rankings 2026
Bydd Mrs Marian Wyn Jones, Cadeirydd presennol y Cyngor, yn camu o’r neilltu ar 30 Tachwedd 2026, ac rydym ni nawr yn ceisio penodi ei holynydd i arwain y corff llywodraethu ar adeg hollbwysig i addysg uwch. Bydd y swyddogaeth bwysig hon yn darparu arweinyddiaeth strategol, llywodraethu cadarn a goruchwyliaeth effeithiol, a bydd y sawl a benodir yn gynghorydd dibynadwy a chyfaill beirniadol i’r Is-ganghellor.
Mae’r Brifysgol yn chwilio am Gadeirydd eithriadol a fydd yn arwain y Cyngor trwy gyfnod o drawsnewid. Ar adeg hollbwysig yn nhaith y Brifysgol, bydd gennych y weledigaeth a’r dylanwad angenrheidiol i lunio’r dyfodol, hyrwyddo rhagoriaeth, a sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni effaith barhaol.
Bydd gan yr ymgeisydd delfrydol sgiliau arweinyddiaeth cryf, a hanes o ymdrin yn llwyddiannus â sefyllfaoedd cymhleth. Bydd ganddynt brofiad o lywodraethu ar frig sefydliad mawr, ynghyd â chraffter ariannol, barn gadarn a sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y penodiad hwn. Fel llysgennad gweladwy i’r Brifysgol, byddant yn helpu sicrhau bod y Gymraeg yn parhau i ffynnu wrth galon y sefydliad a’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.
Byddant yn llysgennad dylanwadol, yn gallu meithrin perthnasoedd ar draws cymunedau amrywiol ac ymdrin â’r byd addysg uwch sy’n esblygu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig, gydag ymrwymiad cryf i lwyddiant myfyrwyr a staff y Brifysgol.
Mae dealltwriaeth o system wleidyddol Cymru a’i heffaith ar y system Addysg Uwch, yn ogystal â dealltwriaeth o’r sector a’i heriau cyfredol yn ddymunol iawn.
Rydym hefyd yn awyddus i ddenu ceisiadau gan bobl a fyddai â diddordeb bod yn Aelod Annibynnol o’r Cyngor. Bydd Aelodau Annibynnol yn arweinwyr strategol profiadol, gydag arbenigedd mewn archwilio, seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, eiddo, a/neu wyddoniaeth.
Dyma gyfle cyffrous i ymuno â ni ym Mhrifysgol Bangor.
Pecyn Ymgeiswyr – Cymraeg
https://current-opportunities/bangor/
Dylid anfon ceisiadau, ar ffurf CV a llythyr eglurhaol, i dim hwyrach na 7 Hydref 2026.
Bydd Pwyllgor Penodi a gynullir gan y Cyngor o dan ofynion Ordinhad 2 yn ystyried pob cais. Gwahoddir ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i gyfweliad wyneb yn wyneb (sy’n debygol o fod ar ddechrau neu yng nghanol mis Tachwedd 2026) yn y cnawd ym Mhrifysgol Bangor.
Mae’r Brifysgol yn gyflogwr cyfle cyfartal, ac yn arbennig o awyddus i annog ceisiadau gan ymgeiswyr o ystod amrywiol o gefndiroedd. Mae ar y Brifysgol eisiau sicrhau bod y Cyngor yn adlewyrchu amrywiaeth cymuned y Brifysgol ac mae hi wedi ymrwymo i wella’r cydbwysedd rhwng y rhywiau ar y Cyngor, cyfran yr aelodau annibynnol sy’n medru’r Gymraeg, a’r aelodaeth o blith pobl dduon ac Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig.
Mae’r Brifysgol yn elusen gofrestredig ac mae aelodau’r Cyngor yn ymddiriedolwyr. Rhaid i ymgeiswyr felly fod yn barod i weithredu fel ymddiriedolwr ac ni ddylai unrhyw reswm a bennir gan y Comisiwn Elusennau eu rhwystro rhag gweithredu fel ymddiriedolwr.
Chair of Council, Bangor University
Established in 1884, Bangor University has a long tradition of academic excellence and a strong focus on the student experience. Today, around 10,000 students study at the University, which employs approximately 1700 staff across twelve Academic Schools within three Colleges, supported by a range of Professional Services.
Bangor University is proud of its distinctive bilingual character, where Welsh and English are valued equally as languages of learning, work and community. Situated at the heart of one of Wales’s strongest Welsh-speaking regions, the University is committed to promoting and celebrating bilingualism in all aspects of its activities. This commitment enriches the student and staff experience, strengthens our connection with the communities we serve, and reflects our belief that linguistic and cultural diversity are a source of academic excellence, innovation and inclusion. As a truly bilingual institution, we seek leaders who will champion and advance this defining feature of the University’s identity and future.
The University has been ranked 30th in the UK for the societal impact of its research, according to the last Research Excellence Framework (REF); top in Wales and 17th in the UK in University Compare 2027; 2nd in Wales, 40th in the UK and 360th in the World in the TIME World’s Top Universities 2026; top 50 in the UK in the Complete University Guide 2027; and Top 10 in the UK and 74th most sustainable university in the World in the Times Higher Education (THE) Sustainability Impact Rankings 2026.
Mrs Marian Wyn Jones, the current Chair of Council, will step down on 30 November 2026, and we are now seeking to appoint her successor to lead the governing body at a pivotal time for higher education. This high-profile role will provide strategic leadership, robust governance and effective oversight, while acting as a trusted adviser and critical friend to the Vice-Chancellor.
The University is seeking an exceptional Chair who will lead the Council through a