About this role
Rhif Cais y Swydd 8903 Math o Waith Parhaol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £25,949.00 -£25,949.00 Lleoliad Elan Valley Dyddiad cau ceisiadau Ymgeisiwch cyn gynted â phosibl - byddwn yn adolygu ceisiadau'n wythnosol nes bydd y swydd wedi'i llenwi gan ymgeisydd addas. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Fel Cynorthwyydd Caffi a Manwerthu, bydd angen i chi wneud y canlynol: Cynorthwyo gyda dyletswyddau a gweithgareddau rheng flaen sy’n gysylltiedig â derbynfa’r ganolfan atyniad ymwelwyr mewn ffordd effeithlon, gadarnhaol a phroffesiynol, gan sicrhau bod delwedd ac uniondeb Dŵr Cymru yn cael eu cynnal ar lefel uchel. Bydd hyn yn cynnwys: 1 Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl gyrff allanol, ymwelwyr ac aelodau o’r cyhoedd sy’n mynychu’r ganolfan atyniad ymwelwyr 2 Cyfrannu’n effeithiol at amcanion a nodau’r tîm atyniad ymwelwyr. Bydd gofyn i chi gynorthwyo gydag archebion ar gyfer ystafelloedd cyfarfod, archebion arlwyo, ac ymdrin ag ymholiadau o ddydd i ddydd 3 Cyfrannu at ofynion iechyd a diogelwch ar y safle, gan sicrhau amgylchedd gwaith diogel sy’n addas i’r diben ar gyfer staff ac ymwelwyr 4 Cynorthwyo tîm rheoli’r atyniad ymwelwyr i sicrhau bod Dŵr Cymru yn gweithredu ac yn cynnal amgylchedd gwaith diogel, gan gyflawni’r safonau gofynnol o ran Iechyd a Diogelwch a Chydymffurfiaeth Statudol. Cynorthwyo gyda Chofrestrau Tân, gwacáu, cymorth cyntaf a diogelwch staff ac ymwelwyr 5 Cyfarfod a chyfarch ymwelwyr, gan sicrhau eu bod yn llofnodi’r llyfr ymwelwyr a bod eu cyswllt ar y safle yn cwrdd â nhw 6 Ymdrin ag ymholiadau dros y ffôn a chysylltu yn allanol ac yn fewnol, trosglwyddo galwadau, cymryd negeseuon, ateb ymholiadau, ar gyfer pob agwedd ar weithgareddau’r safle 7 Cynorthwyo Cymorth Busnes gyda thasgau gweinyddol cyffredinol o ddydd i ddydd 8 Cynorthwyo gyda phob elfen o’r post, yn fewnol ac yn allanol, danfoniadau wedi’u cofnodi, parseli a phecynnau, cludwyr a danfoniadau arbennig ar y safle 9 Monitro’r system archebu ar gyfer llogi beiciau 10 Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes 11 Cynorthwyo yn y man manwerthu gyda thiliau a chyflenwi yn ystod egwyliau Amdanoch chi Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad hanfodol Cymwysterau hanfodol -Cymwysterau clercol/gweinyddol neu gymwysterau’n ymwneud â chysylltiadau cyhoeddus Profiad hanfodol -Profiad o ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd, gweithio ar y rheng flaen mewn derbynfa neu mewn rôl sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid yn flaenorol -Profiad o wneud a derbyn galwadau ffôn ac ymholiadau, ymdrin â chwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd ar y ffôn Gwybodaeth a sgiliau hanfodol -Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd -Ymwybyddiaeth fasnachol -Gwybodaeth neu brofiad o brosesau Iechyd a Diogelwch -Gwybodaeth gymwys o gyfrifiaduron gyda phrofiad o ddefnyddio Excel, Word, Outlook a PowerPoint -Y gallu i wneud penderfyniadau cadarnhaol a rheoli sefyllfaoedd -Mae’n rhaid i chi allu dangos y gallu i ymgymryd â thasgau ar eich pen eich hun o fewn amserlenni penodol a gweithio mewn tîm hefyd -Y gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg Werth ei wybod Gweithio rota o ddydd Llun i ddydd Sul gydag oriau posibl rhwng 8.30am a 6.00pm (i gynnwys diwrnod gwaith 8 awr) Penwythnosau a gwyliau ysgol yw ein hamseroedd prysuraf, lle y bydd mwy o oriau ar gael Mae’n rhaid i chi allu gweithio ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â [email protected] Sylwer, efallai y byddwn yn cau’r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai rolau, efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob gwiriad. Byddwch yn cael mwy o wybodaeth am sut i gwblhau’r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Buddion Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys: · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau ymwelwyr · Darperir hyfforddiant llawn a gwisg · Lleoliad gweithio hardd · Oriau gweithio hyblyg Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ein hamgylchedd hardd yn bwysig iddo. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.