About this role
Job Requisition Number 8615 Work Type Parhaol Job Function Hamdden a Chroeso Salary Range £27,100.00 per annum Base Closing Date Elan Valley (Postcode: LD65HP) Please apply ASAP - we will review applications on a weekly basis until the role is filled with a suitable match. Pwy ydyn ni Oeddech chi’n gwybod bod gennym safle atyniad ymwelwyr yng Nghwm Elan hefyd sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn? Ar y safle mae yna gaffi, ardal fanwerthu a chanolfan weithgareddau sy’n cynnig gweithgareddau ar y tir ac ar y dŵr. Dewch i ymuno â’n tîm brwdfrydig a gweithio ar un o’r safleoedd harddaf ym Mhowys. Eisiau gweld mwy? Cliciwch yma i edrych ar ein gwefan https://elanvalley.org.uk/cy/home/ Mae Cwm Elan wedi’i leoli yn sir Powys yng nghanolbarth Cymru, dim ond ychydig oriau o Birmingham a Chaerdydd. Gellir ein cyrraedd yn hawdd o dref gyfagos Rhaeadr Gwy lle mae gan y dref wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus da. Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano Goruchwylio’r gegin yn bennaf, a chefnogi goruchwyliwr blaen y tŷ i sicrhau bod bwyd o ansawdd rhagorol yn cael ei ddarparu, gan gynnal amgylchedd diogel i bawb ar y safle hefyd. Bydd hyn yn cynnwys: Paratoi, coginio a gweini prydau, rheoli a threfnu cynorthwywyr cegin i ddarparu bwyd o ansawdd uchel Sicrhau diogelwch pawb ar y safle Archebu holl gyflenwadau’r gegin a nwyddau i’w hailwerthu gan gyflenwyr dynodedig Cynnal holl gofnodion HACCP y gegin bob amser ac i’r safon ofynnol Goruchwylio a nodi anghenion hyfforddi cydweithwyr i sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol Ymdrechu i ddatblygu a gwella’r profiad a gynigir i gwsmeriaid Sicrhau bod y gwasanaeth yn y caffi a’r ardal fanwerthu yn cael ei gynnal i safon uchel Cynnal safonau hylendid bwyd y gegin, yr ardal fanwerthu a’r bwyty a sicrhau eu bod yn cael eu cadw’n lân ac yn daclus yn unol â gweithdrefnau diogelwch bwyd Dŵr Cymru Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion y busnes Mae hon yn rôl weithredol. Amdanoch chi Cymwysterau, gwybodaeth, profiad a sgiliau hanfodol Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol a chadarnhaol i ymuno â’n tîm! Dealltwriaeth dda o MS Office a phrofiad o ddefnyddio systemau man gwerthu (POS) Gwiriad DBS boddhaol Profiad ymarferol o iechyd a diogelwch a diogelwch bwyd mewn atyniad ymwelwyr neu amgylchedd manwerthu neu fwyty Profiad o weithio gyda’r cyhoedd Yn frwdfrydig dros roi ein cwsmeriaid yn gyntaf bob dydd Profiad o wasanaeth cwsmeriaid ym maes Arlwyo/Manwerthu/Lletygarwch Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun Werth ei wybod Darperir gwisg Tîm cyfeillgar mewn busnes newydd gyda chyfleoedd cyffrous i ddatblygu gyrfa Patrwm gweithio 37 awr dros 5 diwrnod ym mhob 7 Patrymau shifft arferol: naill ai 8.30am-4.30pm neu 10am-6.30pm (gallwn ystyried hyblygrwydd) I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, cysylltwch â [email protected] Sylwer, efallai y byddwn yn cau’r rôl hon yn gynt os bydd angen. Efallai y byddwn hefyd yn ymestyn y dyddiad cau gwreiddiol yn dibynnu ar ddiddordeb. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirdaon boddhaol, cliriad meddygol ar ôl i’r swydd gael ei chynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol o gofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy’n ymuno â’r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae’r cynnig hwn yn amodol ar fodloni pob gwiriad. Byddwch yn cael mwy o wybodaeth am sut i gwblhau’r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig hwn. Buddion Mae gennym fanteision gwych, gan gynnwys: · Gostyngiadau i staff yn ein hatyniadau ymwelwyr · Darperir hyfforddiant llawn a gwisg · Lleoliad gweithio hardd · Oriau gweithio hyblyg Byddwch hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw y mae ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd a gofalu am ein hamgylchedd hardd yn bwysig iddo. Dŵr Cymru Cyf, a limited company registered in Wales No. 2366777. Registered office: Linea, Fortran Road, St. Mellons, Cardiff CF3 0LT © Dŵr Cymru Cyf 2019.