About this role
Newid eich gyrfa, newid bywydau Y Brifysgol Agored yw prifysgol fwyaf y DU, ac mae'n arweinydd llwyddiannus mewn addysg ran-amser hyblyg, gan gyfuno cenhadaeth i ehangu mynediad at addysg uwch â rhagoriaeth ym maes ymchwil, gan drawsnewid bywydau drwy addysg. Dysgwch fwy amdanom ni a'n cenhadaeth drwy wylio'r fideo byr hwn (bydd clicio ar y ddolen hon yn mynd â chi i wefan YouTube). Y Rôl Fel Cynorthwyydd Cyllid a Chyfarwyddiaeth , byddwch yn darparu cymorth gweithredol, gweinyddol a sefydliadol ym mhob rhan o'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Gan adrodd yn uniongyrchol i Gynorthwyydd Gweithredol y Cyfarwyddwr, mae'r rôl hon yn un amrywiol a fydd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Gyfarwyddiaeth a gweithgarwch rheoli ariannol yn effeithiol. Gan weithio'n agos gydag uwch-reolwyr, deiliaid cyllidebau ac aelodau'r Uwch-dîm Arwain, byddwch yn cefnogi prosesau rheoli ariannol, yn cydlynu gweithgarwch allweddol y Gyfarwyddiaeth, yn rheoli blychau post a rennir ac yn cyfrannu at weithrediadau busnes ar draws timau yng Nghymru. Cyfrifoldebau Allweddol Cymorth â Rheoli Cyllid Darparu cymorth gweithredol i weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyllid ar draws pob tîm yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru, gan gynnwys codi Archebion Prynu, prosesu anfonebau a hawliadau teithio, a phrynu eitemau yn unol â cheisiadau deiliaid cyllidebau. Cynnal codau cyllideb, llofnodwyr awdurdodedig a chaniatadau system ariannol, gan gynnwys sefydlu a dileu mynediad defnyddwyr. Monitro a rheoli blwch post Cyllid Cymru, gan fod yn bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud â chyllid, a chysylltu â thimau cyllid canolog er mwyn bwrw ymlaen â cheisiadau a datrys problemau. Cefnogi Uwch-reolwr Cynllunio ac Adnoddau i gydlynu gweithgarwch rheoli ariannol ar draws y cylch cynllunio busnes blynyddol, gan gynnwys paratoi ar gyfer rhagolygon chwarterol a chynnal cofnodion incwm ar gyfer adrodd, ymhlith pethau eraill. Cefnogi'r gwaith o lunio adroddiadau cyllid a phrosiect blynyddol, gan gynnwys codi ceisiadau cofnodlyfr, sefydlu codau cyllideb newydd a chefnogi gweithgarwch diwedd blwyddyn. Cydlynu'r Gyfarwyddiaeth a Rheoli'r Blwch Post Monitro a rheoli blwch post Cyfarwyddiaeth Cymru, gan ymateb i ymholiadau arferol a dosbarthu ceisiadau i'r timau neu'r unigolion priodol, gan ddefnyddio barn i flaenoriaethu ac uwchgyfeirio lle bo angen. Olrhain a mynd ar drywydd ceisiadau er mwyn sicrhau ymatebion a datrysiadau amserol. Cynnal a chefnogi systemau, adnoddau tracio a phrosesau'r Gyfarwyddiaeth i sicrhau cysondeb ac effeithlonrwydd. Cymorth Cyfarfodydd a Digwyddiadau Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer cyfarfodydd y Gyfarwyddiaeth, gan gynnwys trefnu ystafelloedd a logisteg (lle y bo'n briodol). Cefnogi'r gwaith o drefnu a chynnal digwyddiadau mewnol ac allanol, gan gynnwys y seremonïau graddio blynyddol yng Nghymru. Cymorth Gweinyddol, Systemau a Phrosesau Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol ar draws timau, gan gynnwys llunio a fformatio dogfennau a chydlynu papurau. Cefnogi'r gwaith o gynhyrchu a choladu deunyddiau briffio, adroddiadau a chyflwyniadau. Cynnal systemau ffeilio cywir a chyfredol, gan sicrhau y caiff gwybodaeth gyffredinol ei thrin yn briodol. Cyfrannu at y gwaith o wella prosesau gweinyddol a ffyrdd o weithio. Cymorth Recriwtio a Chynefino Darparu cymorth gweinyddol ar gyfer gweithgarwch recriwtio, gan gynnwys cydlynu â thimau canolog a rheolwyr cyflogi. Cefnogi'r broses gynefino ar gyfer staff newydd, gan sicrhau bod dogfennau'n cael eu cadw a chysylltu â rheolwyr cyflogi a thimau mewnol (Gwasanaethau Pobl, Cyllid a TG) i sicrhau bod trefniadau cydlynol ar waith. Amdanoch Chi Hanfodol: Profiad amlwg mewn rôl weinyddol neu gymorth busnes. Sgiliau TG cryf, a'r gallu i ddysgu a defnyddio systemau newydd yn gyflym. Profiad o gydweithio ar draws timau rhithwir gan ddefnyddio sgiliau TG cryf ac amrywiaeth o systemau gan gynnwys Microsoft Teams a SharePoint. Y gallu i gefnogi nifer o randdeiliaid a rheoli blaenoriaethau croes yn effeithiol. Sgiliau trefnu rhagorol, a'r gallu i gynllunio, blaenoriaethu a rheoli llwyth gwaith amrywiol. Rhagweithiol a hunan-gymhellol, gan gymryd blaengaredd i ragweld anghenion ac olrhain camau hyd at eu cwblhau. Sylw at fanylder ac ymrwymiad i gywirdeb. Sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, gan addasu arddull i wahanol gynulleidfaoedd. Sgiliau rhyngbersonol cryf, gan feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol ar draws timau a rhanddeiliaid. Barn a sgiliau datrys problemau cadarn, a'r gallu i flaenoriaethu, datrys problemau ac uwchgyfeirio yn briodol. Aelod hyblyg a chydweithredol o dîm sy'n gweithio'n dda o dan bwysau mewn amgylchedd cyflym, gan ddeall statws cyfreithiol a diwylliannol y Gymraeg yng Nghymru. Y gallu i gyflawni'r rôl yn unol â gwerthoedd y Brifysgol ac mewn modd sy'n gyson â deddfwriaeth cydraddoldeb a pholisïau'r Brifysgol. Dymunol: Profiad o gefnogi prosesau ariannol, gan gynnwys prosesu anfonebau, cyllidebau a rheoliadau a rheolaethau ariannol. Profiad o ddefnyddio Microsoft Power BI. Profiad o ddarparu cymorth gweinyddol ar lefel uwch a thrin gwybodaeth sensitif yn unol â GDPR a gofynion cyfrinachedd. Sgiliau dylanwadu a negodi cryf, ynghyd â meddylfryd gwella parhaus a ffocws ar ysgogi effeithlonrwydd. Profiad o weithio mewn amgylchedd dwyieithog, ynghyd â sgiliau Cymraeg neu barodrwydd i ddysgu Cymraeg. Cymorth gyda'ch cais Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os bydd angen cymorth neu addasiadau arnoch mewn perthynas â'ch cais, y broses recriwtio, neu'r rôl, cysylltwch â ni drwy ffonio 01908 541111 neu e-bostio [email protected] gan ddyfynnu rhif cyfeirnod yr hysbyseb. Beth yw'r buddion i chi? Yn Y Brifysgol Agored, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddiannau i gydnabod a gwobrwyo gwaith da, ochr yn ochr â pholisïau a threfniadau gweithio hyblyg sy'n cyfrannu at gydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith. Gallwch gael manylion am y buddion rydym yn eu cynnig drwy ymweld â'n tudalen Buddiannau Staff (bydd clicio ar y ddolen hon yn agor ffenestr newydd). Gweithio Hyblyg Rydym yn agored i drafod trefniadau gweithio hyblyg. Boed hynny'n drefniant rhannu swydd, rhan-amser, oriau cywasgedig neu'n drefniant gweithio arall. Cysylltwch â ni er mwyn trafod yr hyn sy'n gweithio orau i chi. Rhagwelir y gellir mabwysiadu trefniant gweithio hybrid ar gyfer y rôl hon, lle gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio gartref ac yn y swyddfa. Fodd bynnag, gan fod contract y rôl hon yn cyd-fynd â'n swyddfa yng Nghaerdydd, disgwylir y bydd rhywfaint o bresenoldeb yn y swyddfa yn ofynnol pan fo angen ac mewn ymateb i anghenion busnes. Byddem yn disgwyl y bydd hyn o leiaf ddwywaith yr wythnos. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gweithio y tu allan i oriau yn achlysurol, gyda thâl goramser neu amser i ffwrdd yn lle hynny, ac mae'n bosibl y bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus hefyd fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau ledled y DU o bryd i'w gilydd. Camau nesaf yn y broses Recriwtio Rydym yn rhagweld y bydd cyfweliadau wyneb yn wyneb ar gyfer y rôl hon yn cael eu cynnal yn ein swyddfa yng Nghaerdydd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 17 Awst 2026. Hysbysiad dyddiad cau cynnar Er y bydd modd gwneud cais am y rhan fwyaf o swyddi tan y dyddiad cau a hysbysebir, mae’n bosibl y byddwn yn adolygu ceisiadau yn barhaus. Mewn rhai achosion, efallai y bydd y cyfnod ymgeisio am swyddi gwag yn dod i ben yn gynt os oes digon o geisiadau addas wedi dod i law, ac os yw effeithiau hynny ar gydraddoldeb wedi eu hystyried yn briodol. Bydd pob swydd yn cael ei hysbysebu am o leiaf wythnos cyn i’r cyfnod ymgeisio ddod i ben yn gynnar. Os ydych chi wedi dechrau cais neu os oeddech chi wrthi’n gwneud cais pan gaeodd yr hysbyseb, rydym yn eich annog i gysylltu â ni. Rydym wedi ymrwymo i ddeall amgylchiadau unigol a gallwn gynnig cymorth lle bo angen, gan gynnwys gwneud addasiadau rhesymol i ymgeiswyr sydd â nodweddion gwarchodedig. Camau nesaf yn y broses Recriwtio I wneud cais am y rôl hon, dylech gyflwyno'r dogfennau canlynol: CV Datganiad personol hyd at 1000 o eiriau. Yn eich datganiad, dylech egluro pam y mae gennych ddiddordeb yn y rôl, gan nodi enghreifftiau lle mae eich sgiliau a'ch profiadau yn cyfateb i gymwyseddau gofynnol y rôl hon fel y'u nodir yn y disgrifiad swydd. Gallwch weld hynt eich cais a gohebiaeth yn ymwneud ag ef pan fyddwch wedi mewngofnodi i'n system recriwtio. Edrychwch yn eich ffolderi sbam/sothach os na fyddwch wedi cael diweddariadau cysylltiedig drwy e-bost.