About this role
Rhif Cais y Swydd 8641 Math o Waith Achlysurol Swyddogaeth y Swydd Hamdden a Chroeso Cwmpas Cyflog £12.00 -£14.00 Lleoliad Dyddiad cau ceisiadau Llanishen 17 Awst 2026 (23:59) Pwy ydyn ni Agorodd ein safle Atyniad Ymwelwyr yn Llys-faen a Llanisien yn 2023, yng ngogledd Caerdydd, ac mae ar agor drwy gydol y flwyddyn! Mae hwn yn gyfle cyffrous i unrhyw un sy'n dymuno ymuno â Dŵr Cymru. Mae'r safle yn ymfalchïo yn yr adeilad Atyniad Ymwelwyr o'r radd flaenaf gyda bwyty ar gyfer 150, balconi gyda golygfeydd dros y ddwy gronfa ddŵr, ystafelloedd newid grŵp a chiwbicl, gweithgareddau tir a dŵr, man addysgu, cuddfannau ac ynysoedd adar, ystafelloedd cyfarfod a Chaffi Carlam. …Dewch i ymuno â'n tîm a gweithio yn yr hafan werdd / las hon sydd lai na 5 milltir o ganol dinas Caerdydd. Eisiau gweld mwy? Ewch yma: https://lisvane-llanishen.com/cy/ Yr hyn y byddwch chi'n gyfrifol amdano Byddwch yn ymuno â'n tîm gwych ac yn y rôl hon byddwch yn ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau, gan gynnwys: Gwasanaethu cwsmeriaid a gweini byrddau Gweithredu'r til, taliadau ag arian parod a cherdyn Sicrhau bod gwasanaeth cwrtais a chyfeillgar yn cael ei ddarparu i bob cwsmer Ymdrechu i ddatblygu a gwella'r profiad i gwsmeriaid a gynigir Arddangos eitemau bwyd ac ailgyflenwi'r cownter Sicrhau bod y byrddau a’r holl fannau yn cael eu cadw'n lân a’u bod ar gael i gwsmeriaid Ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy'n ofynnol gan y Rheolwr Arlwyo i ddiwallu anghenion y busnes Amdanoch chi Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ag agwedd gadarnhaol, sy’n gyfeillgar, yn gallu gweithio ar eu liwt eu hunain, ac sy'n angerddol am weithio gyda'r cyhoedd! Darperir hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl hon, ond os oes gennych unrhyw brofiad o weithio yn y diwydiant gwasanaeth bwyd neu fanwerthu, byddai hynny'n fuddiol. Buddion Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys: Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich band cyflog yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad, gallech dderbyn cynnydd o fewn y band a chymhelliant blynyddol) Opsiwn i brynu gwyliau blynyddol ychwanegol hyd at 5 diwrnod y flwyddyn Cyfraniadau pensiwn cyflogwyr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr Gwasanaethau Broceriaeth Morgeisi Am Ddim Gwell polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd Cyfleoedd dilyniant, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddi ac anogaeth a mentora a ariennir Gostyngiad ar aelodaeth campfa a ffitrwydd a siopau'r stryd fawr Cynllun beicio i'r gwaith Gostyngiad oddi ar holl ganolfannau atyniad ymwelwyr a siopau Dŵr Cymru Cynllun prydlesu ceir a pharcio am ddim ar y safle ym mhob safle Cynllun Iechyd Arian yn Ôl a mynediad at wasanaeth meddyg teulu ar-lein Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teuluoedd agos Mae llawer mwy i'w gweld ar ein gwefan. Oherwydd natur y diwydiant, mae angen geirda boddhaol, cliriad meddygol ar ôl y cynnig, a gwiriad Datgeliad Sylfaenol cofnodion troseddol ar bob gweithiwr newydd sy'n ymuno â'r busnes. Ar gyfer rhai rolau efallai y bydd angen gwiriadau ychwanegol a chliriad diogelwch, ac mae'r cynnig hwn yn amodol ar bob gwiriad yn cael ei fodloni. Byddwch yn derbyn rhagor o wybodaeth am sut i gwblhau'r gwiriadau hyn drwy e-bost ar ôl i chi dderbyn y cynnig. Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY © Dŵr Cymru Cyf 2019.