Now hiring

Arweinydd Strategaeth Iaith Gymraeg (Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LT) @ DWR Cymru Cyfyngedig Welsh Water Plc

Caerdydd, Cymru, GB, CF3 0LTOnsiteFull-time
Apply with ResuMinder

Opens on the employer's site

About this role

Rhif Cais y Swydd

8927

Math o Waith

Parhaol

Swyddogaeth y Swydd

Adnoddau Dynol a Chyfathrebu

Cwmpas Cyflog

£47,492- £54,618

Lleoliad

South East Hub

Dyddiad cau ceisiadau

Dydd Sul, 2 Awst 2026 - 23:59

Beth fyddwch chi’n gyfrifol amdano

Llywio datblygu, cyflawni a gwella Strategaeth y Gymraeg Dŵr Cymru, gan sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg ac aliniad ag amcanion corfforaethol

Gweithredu fel arbenigwr pwnc y sefydliad ar yr iaith Gymraeg, gan gynghori uwch arweinwyr, cydweithwyr ar oblygiadau strategol, enw da, rheoleiddiol a gweithredol.

Ymgorffori'r Gymraeg ar draws gwasanaethau, cyfathrebu, profiad cwsmeriaid, diwylliant mewnol a llwyfannau digidol, gan sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cadeirio Panel Cydlynu'r Gymraeg y cwmni a goruchwylio'r gwaith o gynllunio, cydlynu a monitro gweithgarwch Cymraeg ar draws y sefydliad, gan weithio'n agos gyda thimau cyfathrebu, cwsmeriaid, digidol, AD a gweithredol

Arwain ymgysylltiad â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, rheoli gohebiaeth, monitro cydymffurfiaeth, adrodd ac arolygiadau gan hefyd gynrychioli Dŵr Cymru yn allanol ar faterion Cymraeg, gan feithrin perthynas adeiladol â rhanddeiliaid, partneriaid a dylanwadwyr.

Datblygu a chynnal llywodraethiant, polisïau a chanllawiau clir i gefnogi cyflawniad y Gymraeg yn gyson ar draws y busnes.

Comisiynu, rheoli a sicrhau gwasanaethau Cymraeg, gan gynnwys cyfieithu, prawfddarllen, terminoleg a thechnoleg iaith

Monitro perfformiad o’i gymharu ag ymrwymiadau o ran y Gymraeg, gan ddefnyddio data, mewnwelediad ac adborth i ysgogi gwelliant parhaus. Nodi risgiau, cyfleoedd a materion sy'n dod i'r amlwg yn ymwneud â'r Gymraeg a chynghori ar liniaru a gweithredu rhagweithiol.

Rheoli cyllidebau, anghenion caffael a pherthnasoedd cyflenwyr allanol, gan sicrhau bod allbynnau yn gost-effeithiol.

Darparu cymorth cyfathrebu ar gyfer rota ar alwad ac yn ystod digwyddiadau gweithredol aur ac arian, pan fo angen.

Amdanoch chi

Mae'r canlynol yn ofynion hanfodol ar gyfer recriwtio i’r swydd:

Cymwysterau

• Gradd neu gymhwyster proffesiynol cyfatebol mewn ymgysylltu â'r gymuned, cyfathrebu, effaith gymdeithasol, marchnata, ymgysylltu â'r cyhoedd neu ddisgyblaeth gysylltiedig.

• Profiad o weithio mewn amgylchedd cyfathrebu/cydymffurfio/cydraddoldeb mewn sefydliad/diwydiant sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid

Profiad

• Profiad sylweddol o ddatblygu a chyflwyno strategaeth, polisi neu gydymffurfiaeth Gymraeg o fewn sefydliad cymhleth

• Gallu profedig i gynghori a dylanwadu ar uwch arweinwyr ar faterion strategol a rheoleiddiol

• Profiad o weithio gyda rheoleiddwyr neu gyrff statudol, gan gynnwys, yn ddelfrydol, Comisiynydd y Gymraeg

• Profiad o reoli rhaglenni neu brosiectau sy'n cynnwys newid sefydliadol

• Profiad o gomisiynu a rheoli cyflenwyr allanol neu wasanaethau arbenigol

• Profiad mewn sefydliad a reoleiddir neu sydd ar gyfer y cwsmer

• Profiad o ymgorffori gofynion y Gymraeg mewn gwasanaethau digidol a llwyfannau technoleg

• Profiad o raglenni newid diwylliannol neu fentrau ymgysylltu sefydliadol

Gwybodaeth a Sgiliau

• Cymraeg rhugl (llafar ac ysgrifenedig) gyda'r gallu i weithredu'n hyderus mewn lleoliadau proffesiynol ac uwch.

• Dealltwriaeth fanwl o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a Safonau'r Gymraeg

• Sgiliau meddwl strategol cryf gyda'r gallu i drosi polisi a rheoleiddio yn gyflawniad ymarferol

• Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol yn Gymraeg a Saesneg

• Y gallu i feithrin perthnasoedd cryf a gweithio ar y cyd ar draws ffiniau sefydliadol

• Hyderus wrth ddefnyddio data a mewnwelediad i fesur perfformiad a dangos effaith

• Sgiliau trefnu cryf gyda'r gallu i reoli blaenoriaethau cystadleuol
• Hygrededd personol, gwytnwch a barn gadarn mewn sefyllfaoedd sensitif neu â phroffil uchel

• Dealltwriaeth o brosesau caffael a rheoli contractau

Werth ei wybod

Cymryd rhan yn y rota ar alwad

Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â [email protected]

Buddion

Yn ogystal â chyflog cystadleuol yn y farchnad, 34 diwrnod o wyliau blynyddol (pro rata, gan gynnwys gwyliau cyhoeddus), rydym yn cynnig ystod o fuddion a chydnabyddiaeth i weithwyr gan gynnwys:

• Cynlluniau cyflog amrywiol (bydd eich cyflog bob amser yn aros yr un fath, ond yn dibynnu ar berfformiad y cwmni gallech gael bonws blynyddol)

• Cyfraniadau pensiwn cyflogwr uwch – Hyd at 11% o gyfraniad cyflogwr

• Polisïau sy'n gyfeillgar i deuluoedd

• Cyfleoedd i ddatblygu, gan gynnwys y gallu i wneud cais am raglenni hyfforddiant ac anogaeth a ariennir

• Gostyngiad ar aelodaeth o gampfa a siopau'r stryd fawr

• Cynllun beicio i'r gwaith

• Cynllun prydlesu ceir

• Cynllun Iechyd Arian yn Ôl

• Rhaglen cymorth gweithwyr i gyflogeion a'u teulu agos

Tra hefyd yn gweithio i gwmni nid-er-elw sy'n wirioneddol eisiau ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid bob dydd, ac am ofalu am ein hamgylchedd hardd.

Pwy ydyn ni

Mae Dŵr Cymru yn cadw 3 miliwn o bobl yn iach bob dydd gyda dŵr diogel, dibynadwy, ac yn mynd â dŵr gwastraff i'w lanhau, cyn ei ddychwelyd yn ddiogel i'n hafonydd a'n moroedd hardd.

Er mwyn gallu darparu gwasanaethau hanfodol o ansawdd uchel sy'n helpu i ddiogelu iechyd ein cwsmeriaid, cydweithwyr a'n hamgylchedd, mae angen y bobl iawn arnom i gyflawni ein gweledigaeth. Mae hyn yn cael ei gyflawni trwy fyw ein gwerthoedd craidd ac arddangos yr ymddygiadau craidd sy'n sail iddynt. Mae diogelwch ein pobl, ein hasedau a'n gwybodaeth yn allweddol i ni, felly rydym yn chwilio am bobl sy'n deall ac yn cydymffurfio ag amcanion diogelwch gofynnol y cwmni.

Gwyddom mai'r timau mwyaf llwyddiannus yw'r timau mwyaf amrywiol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn darparu sylfaen i'n diwylliant yn Dŵr Cymru. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn deimlo'n hyderus, yn falch ac yn gallu bod yn nhw eu hunain yn y gwaith. Er mwyn sicrhau gwell cynrychiolaeth yn ein gweithlu, mae croeso arbennig i geisiadau gan grwpiau lleiafrifol gan gynnwys pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, Menywod, LHDT+, pobl anneuaidd a phobl ag anableddau. Gyda'n gilydd rydym yn parhau i greu gweithle sydd nid yn unig yn dathlu lleisiau amrywiol ein cydweithwyr ond hefyd yn cynrychioli pob cwsmer rydyn ni'n ei wasanaethu.

Yn y bôn, mae ein cwmni yn seiliedig ar ymddiriedaeth, bod yn agored, parch, ymrwymiad a gonestrwydd. Cwmni y mae ein cydweithwyr yn falch o weithio iddo.

Dŵr Cymru Cyf, cwmni cyfyngedig a gofrestrwyd yng Nghymru rhif 2366777. Swyddfa Gofrestredig: Heol Pentwyn, Nelson, Treharris, Morgannwg Ganol CF46 6LY

© Dŵr Cymru Cyf 2019.

Ready to apply?

Install the ResuMinder extension and we'll auto-fill the application in seconds — no rewriting.

See how your CV scores